Cymraeg Llanrwst almshouses

Elusendai Llanrwst, 1-12 Stryd yr Eglwys

Adeiladwyd elusendai Llanrwst ym 1610, wrth ymyl y lôn sy'n arwain o Sgwar Ancaster i eglwys y plwyf. Yn wreiddiol, darparai'r elusendai lety syml ar gyfer 12 o ddynion tlawd. Roeddent yn gwisgo clogynnau ac arnynt ​​arwyddlun teulu Wynn.

Pwy dalodd am yr elusendai? Roedd hyn yn destun dadleuon cyfreithiol hirfaith. Dyfarnodd y twrnai gwladol ym 1678 fod yr elusennau lleol wedi cael eu hariannu a'u hyrwyddo gan John Williams, a fu'n brentis i’r gof aur a weithiai i'r Frenhines Elisabeth I. Yn ddiweddarach daeth yn of aur i'r Brenin James I a chasglu cyfoeth mawr. Dadleuodd disgynyddion Syr John Wynn, y tirfeddiannwr lleol mawr yn Llanrwst, mai Syr John a ariannodd yr elusennau ond ni lwyddon nhw erioed i wrthdroi penderfyniad y twrnai gwladol. Gwyddom i Syr John fenthyg arian gan John Williams, a hanai o'r ardal i’r gorllewin o Fetws-y-Coed.

Erbyn y 19eg ganrif roedd gwragedd hefyd yn cael byw yn elusendai Llanrwst. Parhaodd yr adeilad i ddarparu lloches i bobl mewn angen tan 1976, ymhell ar ôl i dai cyngor ym Mhrydain gymryd drosodd swyddogaeth elusendai. Preswylydd olaf elusendai Llanrwst oedd “Mari’r Delyn”, cyn-briod y telynor Reuben Roberts. Un arall a fu’n byw yno yn negawdau diwethaf yr elusendai oedd “Wil Comic”, a gredai mai ef oedd Winston Churchill ac a wisgai yn unol â’r syniad hwnnw.

Am tua 25 mlynedd roedd yr elusendai yn wag ac wedi eu hesgeuluso. Yna dechreuodd Elusen Syr John Wynn o Gwydir godi arian i adfer yr adeilad Jacobeaidd. Yn 2000 cymerodd Ymddiriedolaeth Amgueddfa Elusendai Llanrwst (a oedd wedi’i ffurfio ym 1987) brydles yr elusendai am rent rhad. Galluogodd hyn i’r ymddiriedolaeth sefydlu amgueddfa gymunedol yn yr adeilad, a agorwyd gan yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas fis Ebrill 2002. Caewyd yr amgueddfa yn 2011, pan ddaeth prydles yr ymddiriedolaeth i ben.

Ymhle mae’r HiPoint hwn?

Côd post: LL26 OLE