Llinegr, Ffynnongroyw

Llinegr, Ffynnongroyw

Erbyn 1300 roedd yna dreflan o’r enw Llinegr. Mae’n debyg mai melin ŷd a melin llin oedd canolbwynt y pentrefan. Yn hwyrach datblygodd Ffynnongroyw fel prif aneddiad yr ardal, ond mae’r hen enw yn dal i’w weld ar Fryn Llinegr (Llinegr Hill), yr heol sy’n arwain o Benyffordd i Ffynnongroyw.

Yn ôl yr Athro Hywel Wyn Owen, mae'r cofnodion cynnar yn dangos Lynacre (1301-2) a Linacr (1312). Mae'r Cymreigiad i'w weld gyntaf yn 1663 fel Llinegr. Mae’r enw yn tarddu felly o'r Hen Saesneg sef lin ('flax') ac aecer ('acre'), nid o'r Gymraeg. Cymharer Linacre, Lancashire. Mae'r Cymreigiad Llinegr wedi'i hwyluso trwy i'r gair Hen Saesneg lin gael ei fabwysiadu fel llin yn y Gymraeg yn annibynol. Yn ddiddorol y Cymreigiad Llinegr sydd wedi goroesi; nid oes son am Linacre ar ôl y 17eg ganrif. 

Mae'r Llinegar Inn, ar bwys yr hen ffordd arfordirol, yn cyflwyno fersiwn arall o'r enw.

Gyda diolch i’r Llinegar Inn ac i Gartref Nyrsio Plas Derwen, ar Fryn Llinegr, am arddangos y codau QR, ac i’r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Côd post: CH8 9HB    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button