Cerflun Llywelyn Fawr, Conwy

button-theme-history-for-all

British Sign Language logoCerflun Llywelyn Fawr, Sgwâr Lancaster, Conwy

Mae cerflun Llywelyn ab Iorwerth (Llywelyn Fawr) yn ddirnod lliwgar yng nghanol Conwy. Crëwyd gan E O Griffith yn Lerpwl yn 1895. Mae'n sefyll ar ffynnon a grëwyd gan benseiri Grayson & Ould. Mae’r arysgrif o amgylch y ffynnon yn honni mai Llywelyn a sefydlodd Abaty Aberconwy yn 1184, pan oedd Llywelyn ond yn blentyn!

Bu i fynachod sistersaidd osod sylfeini'r abaty yn 1172. Lleoliad yr abaty oedd ble cafodd tref gaerog Conwy ei ddatblygu yn ddiweddarach. Roedd hi'n 1186 pan roedd y cyfleusterau wedi cyrraedd y safonau gofynnol i allu galw’r lleoliad yn abaty yn swyddogol.

Roedd y ffynnon a’r cerflun yn dathlu cwblhau’r cynllun cyflenwad dŵr wedi’i sefydlu ar gronfa ddŵr Llyn Cowlyd. Roedd yn rhodd gan Albert Wood, cyn faer Conwy, dyn busnes cefnog a oedd yn byw ym Modlondeb, tu allan i waliau’r dref. Ni chafodd y cerflun efydd ei beintio tan yr 1950au.

Bu farw Llywelyn yn 1240 a chafodd ei gladdu ar dir Abaty Aberconwy. Yn ddiweddarach yn y ganrif honno, bu i Frenin Edward y Cyntaf ddiarddel y mynachod a symudwyd gweddillion Llywelyn i Faenan yn Nyffryn Conwy.

Yn ôl y sôn mae Castell Conwy yn sefyll ar fan lle cafodd Llywelyn ei gladdu. Mae arch garreg wag, arch honedig Llywelyn, yn yr eglwys yn Llanrwst bellach. Collwyd ei weddillion nifer o flynyddoedd yn ôl, efallai yn ystod cyfnod diddymu mynachlogydd ym Mhrydain yn y 16eg Ganrif. Mae eglwys wreiddiol Abaty Aberconwy wedi goroesi, gyda gwahanol addasiadau, sef Eglwys y Santes Fair.

Yn ôl sôn cafodd Llywelyn ei eni yng Nghastell Dolwyddelan, ger Betws-y-coed, c.1174. Trechodd ei ewythr ei hun mewn brwydr ger Conwy yn 1194. Ehangodd ei diriogaeth, gan ddod ag undod digynsail i Gymru. Ar ôl hyn cafodd y teitl Tywysog Cymru.

Yn 1205, priododd â Joan (Siwan), merch Brenin John, ond roedd y berthynas rhwng llywodraethwyr Cymru a Lloegr yn dymhestlog. Unwaith bu i John orfodi Llywelyn i ildio tir i’r dwyrain o aber Conwy. Bu i Llywelyn ddial pan gafodd afael ar yr Amwythig yn 1215 i gefnogi'r ymgyrch gan farwn Saesneg anfodlon i orfodi Brenin John i arwyddo bil hawliau, y Magna Carta.

Yn ei ddisgrifiad o’i daith o amgylch Cymru  yn 1188 yng nghwmni Archesgob Caergaint yn recriwtio ar gyfer y drydedd groesgad, sonia Gerallt Gymro am Lywelyn. Croesoedd y ddau aber afon Conwy (gorllewin-dwyrain) islaw Deganwy a mynachlog Aberconwy ar y dde iddynt. Dyma’r cyfnod y dechreuodd Llywelyn ymosod ar eu ewythredd sef Dafydd a Rhodri, y naill a’r llall ohonynt yn blant siawns. Gorchfygwyd yr ewythredd er iddynt ddenu cefnogaeth gwŷr cyfoethog gan gynnwys y brenin Harri’r II (roedd ei hanner chwaer yn wraig i Dafydd). I Gerallt roedd hyn yn brawf fod godineb yn ffieiddbeth yng ngolwg Duw.

Gyda diolch i Llew Groom, o Gymdeithas Hanesyddol Aberconwy

Cod post: LL32 8DA    Map

button_tour_gerald-W Navigation previous buttonNavigation next button