Cymraeg Memorial to drowned boys, Criccieth

Cofeb i fechgyn a foddodd, Cricieth

Mae'r llyw yma yn coffáu pedwar bechgyn ysgol o Bedford a’u hathro a foddodd yn y môr yn 1951.

Roedd trigolion ac ymwelwyr ar lan y môr yng Nghricieth wedi synnu i weld cwch hwylio yn y bae ar ddydd Llun 3 Medi, 1951. Roedd y tywydd yn wyntog a’r tonnau’n arw. Roedd y cwch hwylio pren, o’r enw Dorothy, yn mesur 5.8 metr (19tr ) o hyd ac yn eiddo i’r Public Preparatory School, yn Bedford. Roedd disgyblion ac athrawon yn gwersylla gerllaw Morfa Bychan.

Ar 2 o’r gloch trodd y cwch drosodd mewn cwythiad sydyn o wynt tra roedd tua 0.8km (hanner milltir) i ffwrdd o’r castell. Gwelodd y bobl ar y lon fod rhai o'r preswylwyr yn glynu wrth y gwch phenau yn siglo i fyny ac i lawr yn y dŵr. Roedd gorsaf bad achub Cricieth wedi cau yn 1931, felly aeth cymerodd rhai o'r cychwyr lleol ddingi at y traeth a'i lansio i mewn i'r tonnau trwm. Cafodd y dingi ei foddi a'i daflu’n ôl ddwywaith cyn iddo gael ei lansio'n llwyddiannus, gyda chymorth gan lawer, gan gynnwys y gwragedd.

Ar yr un pryd lansiwyd cwch modur o'r traeth dwyreiniol, a oedd yn fwy cysgodol. Roedd yn rhaid defnyddio bwcedi yn gyson i hel dŵr o’r ddau gwch wrth iddynt ymlwybro drwy’r tonnau. Achubwyd pedwar bachgen. Ni allai bad achub Pwllheli gael ei lansio gan fod y llanw’n isel, ac ni chyrhaeddodd bad achub Abermaw tan 5 o'r gloch.

Cafwyd hyd i’r pum corff y diwrnod nesaf. Ar y dydd Iau cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn Eglwys St Catherine, cyn angladdau dau o'r bechgyn. Cawsant eu claddu ym mynwent Cricieth. Ysgogodd y ddamwain yr RNLI i agor gorsaf bad achub newydd yng Nghricieth yn 1953.

Y bechgyn a foddodd oedd David G Howells, David O Nye, Hugh Westerway and Brian Haden Guest. Boddwyd hefyd yr Uwch-Gapten AW Lucas, eu hathro.

Y cychwyr a gymerodd ran yn yr achub oedd Griffith Davies, Will Davies, Robert Cadwalader, Herbert Hart, Charles Jones, Hugh T Jones, Mathias Williams, Walter Love a Vernon Williams.

Gyda diolch i Robert Cadwalader, o Amgueddfa Forwrol Porthmadog

Ymhle mae HiPoint hwn?

Côd Post : LL52 0EA

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button