Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd

Pwyswch i glywed darlleniad o'r dudalen gan RNIB Cymru 

Photo of Norwegian Church in original positionSefydlwyd Eglwys Norwyaidd Caerdydd gan Herman Lunde o Oslo ym 1868. Roedd yr adeilad pren yn sefyll yn wreiddiol rhwng dociau’r dwyrain a'r gorllewin (gweler y llun ar y dde), ar dir a gafwyd yn rhodd gan y Marquis of Bute. Ychwanegwyd yr oriel a'r clochdy ym 1885. Dyma'r eglwys hynaf a adeiladwyd dramor gan Genhadaeth y Morwyr Norwyaidd i oroesi yn gyfan.

Roedd morwyr Sgandinafaidd yn gweithio ar longau a ddaeth i Gaerdydd i gludo ymaith glo Cymru. Roedd yr eglwys, a gynlluniwyd fel eglwys pentrefol nôl gartref, yn hafan yn y porthladd prysur lle y gallai'r morwyr gyfarfod, addoli, darllen cyfnodolion o'u gwledydd brodorol neu ysgrifennu llythyrau adref. Ar ôl dirywiad y diwydiant glo, caeodd yr eglwys ym 1974 a dechreuodd bydru. Ym 1987 cafodd ei datgysylltu gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth yr Eglwys Norwyaidd, a gadwodd hefyd lawer o'r ffitiadau mewnol. Cododd yr ymddiriedolaeth £250,000 yng Nghymru a Norwy i ail-godi'r eglwys ar ei safle presennol, lle yr agorwyd i’r cyhoedd gan y Dywysoges Martha Louise o Norwy ym 1992.

Photo of Norwegian Church Arts CentreLlywydd cyntaf yr ymddiriedolaeth oedd yr awdur plant Roald Dahl, a fedyddiwyd yn yr eglwys ym 1916. Roedd ei dad Harald, a oedd yn addoli yn yr eglwys, yn hanu o Oslo ac yn gyd-sylfaenydd cwmni broceriaeth llongau yng Nghaerdydd ym 1880. Roedd gan y cwmni swyddfeydd hefyd yn Abertawe, Port Talbot a Chasnewydd. Bu farw Roald Dahl yn 1990. Bob blwyddyn, dethlir ei ben-blwydd yn yr eglwys gyda pharti ar gyfer plant lleol.

Ailagorodd yr eglwys ym Mai 2011 ar ôl gwaith adnewyddu pellach, wedi’i ariannu gan y Landfill Communities Fund a chyda cymorth gan Gyngor Sir Hordaland, Norwy.

Rhedir Canolfan Gelfyddydau’r Eglwys Norwyaidd bellach gan elusen fel lleoliad ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau. Mae’n gartref i’r Gymdeithas Norwyaidd Gymreig sy’n cyfarfod yma bob mis. Mae Caffi Norsk yn gweini bwyd a diod o ffynonellau lleol gyda dylanwad Nordig, yn cynnwys wafflau a lapskaus (cawl).

Côd post: CF10 4PA    Map

Gwefan yr Eglwys Norwyaidd

Diolch i RNIB Cymru am fersiwn sain y dudalen hon

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button