Hen bont Pontypridd

Hen bont Pontypridd

Rhychwant y bont hon oedd yr hiraf yn Ewrop pan gwblhawyd y gwaith adeiladu ym 1756. Yn rhyfeddol, gwaith saer maen hunan-ddysgedig oedd y bont. Ei enw oedd William Edwards (1719-1789) ac fe hanai o Groeswen, nepell o Bontypridd.

Engraving of the bridge at Pontypridd
Hen engrafiad sy'n dangos y bont
© Royal Collection Trust / © Her Majesty Queen Elizabeth II 2021

Mae’r hen engrafiad yn seiliedig ar baentiad gan yr artist tirlun Richard Wilson, a fu farw ym 1782.

Comisiynwyd y bont gan Sesiyanau Chwarter Morgannwg i gymryd lle pont bren a oedd yn dirywio. Talodd trigolion Meisgyn a Senghennydd, y cannoedd ar bob ochr i’r afon, gyfradd i godi’r £500 am y bont newydd. Roedd termau’r contract yn cynnwys saith mlynedd o gynnal a chadw’r bont gan Edwards. Yn gyntaf, fe gododd bont gyda tri bwa, ond dinistriwyd hon o fewn dwy flynedd. Doedd y pileri ddim yn gallu gwrthsefyll grym yr afon a’r malurion a gariai’r dŵr. Wedyn ceisiodd Edwards ddwywaith i godi pont gyda dim ond un rhychwant ar draws yr afon. Cwympodd y ddwy bont.

Wedyn fe ddyfeisiodd bont gyda tri thwll crwn trwy’r gwaith maen ar bob ochr i’r rhychwant. Roedd y tyllau yn lleihau pwysau’r strwythyr, ac mae’r bont yn dal i sefyll heddiw. Ni sylweddolodd neb pa mor arwyddocaol oedd ei rhychwant o 44 metr hyd nes y dychwelodd Dug Caer Efrog o daith Ewropeaidd ym 1764. Mewn erthygyl cylchgrawn, canmolodd bont y Rialto yn Fenis, gyda’i rhychwant o 30 metr. Ymatebodd darllenydd gyda llythyr at y golygydd yn tynnu sylw at rhychwant hirach y bont ym Mhontypridd.

Dymchwelodd grym yr afon bontydd hefyd yng Nghaerdydd, fel y gallech ddarllen yma.

Denodd ceinder y bont sylw artistiaid, yn cynnwys JMW Turner. Atebodd y bont yr angen am fodd i ffermwyr â’u hanifeiliaid groesi’r afon ar y ffordd i farchnad Caerffili. Ond yn hwyrach, achosodd culni’r bont dagfeydd traffig, ac roedd y disgyniant o frig y bont yn rhy serth i geffylau â chertiau. Ym 1857, felly, adeiladwyd pont gwastad ochr yn ochr â’r hen bont. Mae gan y bont hon golofnau sy’n sefyll yn yr afon.

Roedd Edwards mewn dyled ar ôl iddo godi pedair pont am bris un. Cododd aelodau o’r fonedd lleol bres i dalu ei ddyledion, oherwydd roeddynt yn cydnabod ei athrylith. Aeth Edwards ymlaen i adeiladu, gyda’i feibion, o leiaf 10 pont arall. Ar ôl iddo ddysgu gwersi ym Mhontypridd, roedd y pontydd yma yn fwy addas ar gyfer cerbydau a dynnwyd gan geffylau. Gellid gweld enghreifftiau o’i waith ym Mrynbuga (Sir Fynwy), Dolauhirion (Sir Gaerfyrddin) a Phontardawe (Abertawe).

Gyda diolch i Ymddiriedolaeth y Casgliad Brenhinol am yr engrafiad

Côd post: CF37 4PE    Map

National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button