Hen lys, Dolgellau

button-theme-womenbutton-theme-crimeHen lys, Dolgellau

Roedd yr adeilad hwn, sydd bellach yn gartref i ystafelloedd te Y Sospan, unwaith yn llys barn a neuadd y dref. Ar y llawr gwaelod roedd celloedd y carchar, lle y daliwyd crwydriaid, meddwon ac eraill. Roedd llys yr ynadon ar y llawr cyntaf.

dolgellau_1606_fireplaceRoedd yr adeilad yn ganolfan weinyddol i'r dref cyn 1825 pan gwblhawyd Neuadd y Sir, a oedd yn cynnwys llys, ger y brif bont.

Fel y gwelwch os ewch i mewn i Y Sospan, mae gan yr adeilad nodweddion o ddechrau'r 17eg ganrif a oroesodd y nifer o newidiadau a wnaed yn y 18fed ganrif. Sylwch ar yr hen drawstiau, a'r llawr carreg.

dolgellau_witch_ducking_depictionUwchlaw’r lle tân i fyny'r grisiau mae arfbais gyda’r dyddiad 1606 (yn y llun ar y dde). Ymhellach i fyny'r wal mae addurniadau plastr yn dangos, ymhlith pethau eraill, dyn yn cael ei hongian a dynes yn cael ei throchi i brofi ai gwrach oedd hi (yn y llun ar y chwith). Byddai’r ddynes yn cael ei rhwymo i stôl a oedd wedyn yn cael ei ollwng dan ddŵr. Pe bai'r wraig yn dal yn fyw pan godwyd y stôl yn y pen draw, tybir ei bod yn wrach ac fe’i lladdwyd. Pe bai'n cael ei boddi, roedd hi'n ddiniwed ond wedi colli ei bywyd beth bynnag!

Mae'r adeilad wedi cael amryw o ddefnyddiau ers iddo beidio â bod yn neuadd y dref a llys. Yn 1847 trodd Syr Robert Williams Vaughan yr adeilad i mewn i lyfrgell ar gyfer Clwb Criced a Darllen y dref, a elwir hefyd y “Reading Society”. Erbyn 1850 roedd amgueddfa fechan wedi'i ffurfio yn yr hyn a ddisgrifiwyd wedyn fel yr ystafell ddarllen gyhoeddus yn hen neuadd y dref. Roedd yr arddangosfa yn cynnwys darganfyddiadau archeolegol Rhufeinig, Celtaidd a Sacsonaidd.

Roedd yr ystafell ddarllen wedi symud i Ystafelloedd Cyfarfod (Assembly Rooms) y dref erbyn 1873, ac wedi hynny roedd gan y cyfrifydd Edmund Jones ei swyddfeydd yma.

Cod post : LL40 1AW     Map

Gwefan Y Sospan

Alexandra Gardens memorial tour label Navigation previous buttonNavigation next button