Yr Hen Orsaf Heddlu, Bethesda

button-theme-crimebethesda_police_stationYr Hen Orsaf Heddlu, Bethesda

Yr adeilad hwn, sydd bellach yn gartref i salon trin gwallt Copa a Caffi Seren, oedd gorsaf heddlu Bethesda mor bell yn ôl â 1860. Cyn hynny, defnyddiwyd storfa’r dref. Arferai sarjant a chwnstabl fyw yma gyda’u teuluoedd. Yn 1911 ehangwyd cartref y sarjant i saith ystafell, tra’r oedd rhaid i’r cwnstabl ddod i ben â thair ystafell yn unig! Gweler yr orsaf heddlu ar y dde yn yr hen gardiau post hyn.

Bu Megan Jones, y seren opera ryngwladol Leila Megane, yn byw yng ngorsaf yr heddlu yn blentyn bach. Fe'i ganed (yma mae'n debyg) ar ddiwrnod cyfrifiad 1891 ac mae’r cyfrifiad yn ei chofnodi fel preswylydd yma, oed un diwrnod. Cafodd ei thad, Sarjant Thomas Jones, ei ddyrchafu'n arolygydd heddlu ym Mhwllheli yn 1896 a symudodd y teulu yno. Gallwch ddarllen am ei gyrfa ar ein tudalen am ei chartref diweddarach yng Nghaernarfon. Yn 1895 enillodd ei chwaer hynaf Kate, 13 oed, ddwy wobr ganu yng nghyfarfod llenyddol Capel Jerusalem ym Methesda.

Arferai heddlu Bethesda ymdrin â chamymddygiadau gan gynnwys ceiniogau ffug, meddw wrth reoli ceffyl a chart, rasio bysiau a dynnwyd gan geffylau, rhegi, gwneud loteri a photsio!

Roeddent yn aelodau o’r gymuned, yn gymdogion a chyfeillion, ond yn sgil Streic Fawr Chwarel y Penrhyn yn 1900-1903, rhoddwyd y perthnasau hyn dan straen enbyd. Yn hytrach na’r arfer o bum heddwas ar eu rowndiau, daeth 20 i 30 yn bresennol yma a bu ymchwiliad i weithredoedd yr heddlu yn ystod y streic yn feirniadol tu hwnt. Yn ogystal, anfonwyd milwyr yma. Ar 3 Ionawr 1903, ymgynullodd torf fawr, swnllyd y tu allan i’r adeilad hwn i brotestio yn erbyn cyrhaeddiad sgwadron o Farchfilwyr. 

bethesda_high_street_and_police_stationYm mis Chwefror 1903, symudodd Sarjant Rowland Rowlands a’i deulu yma. Fis yn ddiweddarach, achosodd storm i un o’r tri simnai tal chwalu’r to a disgyn ar lety’r cwnstabl. 

Roedd Sarjant Rowlands, aelod o Gapel Bethesda, yn y penawdau yn 1906 gan iddo roi tystiolaeth mewn erlyniad o werthu cwrw heb drwydded. Dywedodd ei fod wedi blasu’r cwrw a’i fod yn dda (chwerthin yn y llys). Ei unig gŵyn oedd “mai dim ond mymryn a gafodd ei flasu” (chwerthin uchel). Pan ofynnwyd iddo sut yr oedd yn gwybod mai cwrw ydoedd, eglurodd Rowlands: “Oherwydd y blas, syr, ac oherwydd fy mod wedi cael llymaid lawer gwaith cyn heddiw” (rhuadau o chwerthin). 

Un noson ym mis Ebrill 1906, syfrdanwyd Sarjant Rowlands gan “sgrechfeydd gwallgof yn ei gyntedd”. Roedd Mr Edwards, y cigydd, wedi cloi ei wraig yn un o gelloedd yr orsaf oherwydd ei bod wedi meddwi! Rhoddodd y sarjant gerydd i Mr Edwards a rhyddhau Mrs Edwards, gan ei rhybuddio i fynd tuag adref. Ond pan ddywedodd wrtho ei bod am fynd i’r capel i glywed ei mab yn canu, dywedodd Sarjant Rowlands wrthi â llais dwfn “os na fyddai’n mynd am adref y byddai’n ei chloi mewn cell yn swyddogol”.

Cod post : LL57 3AR    Gweld Map o’r Lleoliad

Gyda diolch i Dr Hazel Pierce o’r Tŷ Hanes. Ffynonellau yn cynnwys 'The North Wales Quarrymen 1874-1922' gan RM Jones (Caerdydd, 1981), tt. 245, 252. Cyfieithiad gan Anna Lewis, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor

button_tour_StrikesAndRiots-E Navigation previous buttonNavigation next button
button-tour-slate-trail button-nav-prev-Wbutton_nav_next-W