Pier Penarth

Pier Penarth

penarth_pierAgorwyd y pier ym mis Chwefror 1895. Mae’r strwythur wedi’i wneud o haearn bwrw, gyda deciau pren. Y peiriannydd oedd HF Edwards. Mae’r llun yn dangos y pier yn ei flynyddoedd cyntaf.

Ar y pryd roedd torfeydd o bobl yn yr haf yn teithio ar longau stêm ar draws Môr Hafren, rhwng ardaloedd diwydiannol De Cymru a chyrchfannau Gwlad yr Haf a gogledd Dyfnaint. Adeiladwyd glanfa sylweddol ym mhendraw’r pier er mwyn i longau ager alw ym Mhenarth. Mae’r gwahaniaeth rhwng llanw uchel ac isel ar hyd Môr Hafren yn fwy nag yn unman arall yn y byd, ac eithrio’r Bae of Fundy, yng Nghanada.

Ychwanegwyd adeiladau at y pier i wella ei rôl fel atyniad yn ei hawl ei hun. Maent yn cynnwys y Pafiliwn, a godwyd yn y 1920au. Yn 1931 dinistriwyd rhai o’r adeiladau gan dân, a ddifrododd hefyd rhai o'r hytrawstiau.

Ym 1947 difrdwyd pendraw’r pier pay chwythodd gwyntoedd cryfion long 7,000 tunnell yn erbyn y strwythur. Fe ail-agorodd y pier ym 1950 ar ôl gwaith atgyweirio ac atgyfnerthu a gostiodd £28,000. Yn 1966, tarodd y llong ager PS Bristol Queen y pier, a'i ddifrodi, wrth agosáu mewn niwl.

Mae Cyngor Bro Morgannwg nawr yn berchen ar Bier Penarth. Yn y 1990au gwariwyd £3.5m ar y pier mewn cyfres o brosiectau adnewyddu, gyda chymorth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac eraill.

Daeth mordeithiau pleser masnachol ar draws Môr Hafren i ben yn 1981, ond prynwyd y llong olaf, MV Balmoral, yn ddiweddarach gan yr elusen sy'n gofalu am PS Waverley, y stemar olwyn olaf yn y byd sy’n teithio ar y môr, i barhau'r traddodiad.

Ar ddec y pier, efallai y sylwch ar blaciau coffa pres. Gall aelodau o'r cyhoedd gomisiynu plac er cof am un annwyl, gyda'r elw yn mynd tuag at gynnal a chadw'r pier.

Cod Post: CF64 3AU    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button