Penlan Fawr, Pwllheli

Penlan Fawr, Pwllheli

Adeilad hynaf Pwllheli yw hwn. Credir ei fod yn dyddio o'r 16eg ganrif, gydag ychwanegiadau o'r 17eg ganrif. Tŷ tref stâd Llwyndyrys (wedyn Corsygedol, Ardudwy) oedd yn wreiddiol.

Darganfuwyd y llythrennau RV ar golofn portj yn ystod gwaith ail wampio yn 2009. Mae'n debyg eu bod yn cyfeirio at Richard Vaughan Corsygedol (1606-1636). A dengys yn hynny i'r portj felly gael ei gwblhau yn y cyfnod yr oedd ef mewn meddiant o'r stâd (sef 1633-1636).

Mae Penlan Fawr hefyd yn un o dafarndai hynaf Cymru. Mewn llythyr sy'n dyddio o cyn 1622 mae William Vaughan (tad Richard Vaughan) yn gofyn i Syr William Maurice Clenennau (un o brif weinyddwyr y goron yn Sir Gaernarfon) am drwydded i werthu gwin mewn adeilad ym Mhwllheli. Mae’n dra thebygol mai Penlan Fawr oedd yr adeilad dan sylw.

Mae cofnodion o 1784 yn dangos yn glir mai tafarn oedd Penlan Fawr ar y pryd. Erbyn hynny yr oedd yn eiddo i stâd Mostyn (a etifeddodd eiddo Corsygedol) ond yn 1844 gwerthwyd y dafarn i Abraham Jones Williams Gelliwig, etifeddwyd hi wedyn gan ei nai Syr Osborne Williams Castell Deudraeth, a gwerthodd yntau'r lle i'r tafarnwr James Cowell yn 1892.

Yn 1921 daeth yn eiddo i fragdy cyn dychwelyd i ddwylo lleol, yn eiddo i Lle Cyf, yn 2009.

Dros y blynyddoedd cynhaliwyd nifer o weithgareddau yma. Am gyfnod yn y 19eg ganrif, bu yn ysgol yn ogystal â thafarn. Ac yn yr adeilad drws nesaf (a oedd yn rhan o'r dafarn am gyfnod) yr oedd theatr fechan yn y llofft. Ond pery adloniant hyd heddiw yn ganolog i weithgaredd y dafarn.

Gyda diolch i Iwan Edgar a Grŵp Darganfod Hen Dai Cymreig

Côd post: LL53 5DE    Map

Gwefan Penlan Fawr (Facebook)