Cymraeg Pentrefoelas fairy tales

Straeon tylwyth teg Pentrefoelas

Mae Conwy Wledig yn ardal sy’n llawn o straeon gwerin, a phan fyddwch yn edrych o gwmpas y dirwedd mae'n hawdd gweld pam. Ymhlith y mynyddoedd, brigiadau creigiog a choetiroedd y mae rhaeadrau, afonydd byrlymus a thyllau cysgodol lle gall y dychymyg redeg yn wyllt yn hawdd.

Ganrifoedd yn ôl, roedd pobl yn cysylltu ffenomenau naturiol efo hud, cewri ymosodol, dreigiau rhyfelgar neu waith y “Tylwyth Teg”. Mae straeon y Tylwyth Teg yr ardal fel arfer yn foesol, ac mae eu negeseuon yn gyfarwydd i ni heddiw: peidiwch â hel clecs; cadwch eich tŷ yn lân; cadwch at eich addewidion; a peidiwch a rhannu cyfrinachau pobl eraill!

Ceisiwch ddehongli’r moesau yn y storïau wrth i chi ddilyn ein llwybr tylwyth teg o gwmpas y parc ym Mhentrefoelas. Daw’r pum chwedl sy'n ymddangos yn y llwybr o gasgliad a gofnododd y Parchedig Elias Owen – ysgolhaig Fictoraidd a ymchwiliodd ac ysgrifennodd am lên gwerin yng Nghymru – ar ôl iddo wrando ar y Parch Owen Jones, cyn-ficer Pentrefoelas, yn adrodd straeon lleol.

Ble mae'r HiPoint hwn?

Fairy Trail Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Stori 1 - Ci’r Tylwyth Teg

Image of Fairy

Ar ei ffordd adref o Eglwys Pentrefoelas un diwrnod, gwelodd gwraig a drigai yn Hafod-y-Garreg, Pentrefoelas un o gŵn y tylwyth teg ar y llawr, yn wael yr olwg. Cododd y ci yn ofalus ac fe'i cariodd adref yn ei ffedog.

Cofiai'r wraig am hanes dynes a drigai yn y pentref ar un adeg (mewn tŷ o’r enw Bryn Heilyn) yn cael ei melltithio ac yn disgyn yn farw ar ôl bod yn greulon â chi tylwyth teg yr oedd wedi’i ganfod. Yn benderfynol o osgoi'r un ffawd, roedd y wraig yn garedig i’r ci bach. Paratôdd wely meddal iddo yn y pantri a'i fwydo'n dda.

Y noson honno, daeth criw o dylwyth teg i’r bwthyn i holi am y ci. Dywedodd ei fod yn ddiogel ac ychydig yn well, a bod croeso iddynt fynd â'r ci adref gyda hwy. Roedd y tylwyth teg yn falch. Fe wnaethant godi’r ci a gofyn iddi: “Beth sy’n well gennyt, buwch lân neu fuwch fudr?”  Dewisodd y wraig fuwch fudr. Hyd ddiwedd ei hoes, fe wnaeth ei gwartheg roi mwy o lefrith iddi na'r gwartheg gorau ar ffermydd gorau Pentrefoelas.

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button