Porthmawr – Plasty o Gyfnod y Rhaglywiaeth, Crughywel

button-theme-irish-welshPorthmawr – Plasty o Gyfnod y Rhaglywiaeth, Crughywel

crickhowell_porthmawr_mansion_and_gatehouse

Mae’r plasty’n gartref i lawer o bobl ddiddorol ers iddo gael ei adeiladu yn y 1820au ar safle maenordy caerog o’r 15fed ganrif. Gallwch ddarllen mwy am yr hen faenordy ar ein tudalen am ei giatws sy’n dal i sefyll.

Adeiladwyd y plasty hwn o gyfnod y Rhaglywiaeth gan y Comander o’r Llynges Frenhinol oedd wedi ymddeol a’r ynad heddwch lleol, Edward Seymour, a fu’n byw yma tan 1871. Mae’r hen ffotograff ar y dde yn dangos cefn yr adeilad ochr yn ochr â’r Giatws.

O 1877, bu Percy a Caroline Davies yn byw yma. Buont yn gyfrifol am sefydlu Tafarn Goffi’r Frenhines, gyda llyfrgell gyhoeddus ar y llawr cyntaf, a adawyd i’r dref ym 1903.

Yn nes ymlaen roedd Porthmawr yn eiddo i’r teulu Solly Flood oedd â’u gwreiddiau yn Kilkenny yn Iwerddon. Uwchfrigadydd yn y Fyddin Brydeinig oedd Syr Frederick Richard Solly-Flood. Fe’i clwyfwyd yn ystod y Gwrthryfel Indiaidd yn erbyn rheolaeth drefedigaethol ym 1857. Bu farw ym Mhorthmawr ym 1909 yn 80 oed.

Derbyniodd ei fab Arthur a fu’n byw ym Mhorthmawr yr Urdd Gwasanaeth Nodedig yn Rhyfel De Affrica (Boer) a chymerodd ran ym Mrwydr Mons, brwydr fawr gyntaf Prydain yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Ym 1916 priododd ag Elise Martin o’r Fenni yr oedd ei gŵr cyntaf wedi marw yn y Rhyfel ym 1915.

crickhowell_arthur_solly_flood

Ar ddechrau 1917, penodwyd Arthur (yn y llun ar y chwith, drwy garedigrwydd Canolfan Archifau Crughywel a’r Cylch) yn Frigadydd ar staff Syr Douglas Haig, cadlywydd byddin Prydain ar Ffrynt y Gorllewin. Yn nes ymlaen y flwyddyn honno, dyrchafwyd Arthur yn Uwchfrigadydd a daeth yn bennaeth ar yr 42ain Adran Droedfilwyr. Ymhlith yr anrhydeddau a dderbyniodd yn ystod y rhyfel, roedd sawl un o Wlad Belg a Ffrainc. Bu farw ym 1940 a’i gladdu gerllaw ym mynwent Eglwys Sant Edmwnd.

Cafodd Rudolf Hess, dirprwy Adolf Hitler, ei gadw ym Mhorthmawr am sbel yn ystod yr Ail Ryfel Byd ar ôl ei wrthgiliad o’r Almaen ym 1941. Ceir mwy amdano ar ein tudalen am Westy’r Angel yn y Fenni, lle byddai weithiau’n cael lluniaeth.

Ym 1954 daeth Porthmawr yn gartref i Dr Joe Morgan, credwr mawr mewn meddyginiaeth homeopathig. Byddai’n rhoi ffisig llysieuol ochr yn ochr â’i bresgripsiynau arferol. Fe’i clywid yn aml ar radio’r BBC yn sôn am homeopathi. Tyfid llawer o’r llysiau llesol a phlanhigion yn ei ardd at ddibenion meddygol.

Am tua 10 mlynedd hyd at 1998, bu Dr Roger Langmaid yn byw ym Mhorthmawr. Yn y 1960au roedd wedi gweithio gyda chorfforaethau Americanaidd gan gynnwys IBM, lle bu’n datblygu systemau recordio magnetig ar gyfer cyfrifiaduron, recordyddion fideo ac offer eraill.

Erbyn heddiw, mae Tŷ Gwledig Porthmawr yn ganolfan ar gyfer llety i grwpiau, priodasau a digwyddiadau eraill.

Gyda diolch i Geoff Powell ac i Ganolfan Archif Ardal Crughywel

Cod post: NP8 1DE    Map
 

I barhau’r daith “Crughywel yn y Rhyfel Byd Cyntaf”, croeswch y Ffordd Newydd a cherdded i fyny at ffordd yr A40. Croeswch a throi i’r chwith. Daliwch ymlaen ar hyd yr A40 at giatiau’r tŷ cyntaf yn Ffordd Llanbedr
POWYS WAR MEMORIAL PROJECT  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button