Yr Afon Taf, Parc Bute

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button


Bute Park logo

Yr Afon Taf, Parc Bute

Dros y canrifoedd, cafodd Afon Taf effaith enfawr ar ddatblygiad Caerdydd. Ar yr un adeg, cafodd Caerdydd effaith enfawr ar yr Afon Taf.

Dywed dogfen o 1548 fod Caerdydd “uppon the water of Toof, by reason of the great rage of the streme there”. Afon fer yw'r Taf ond daw’r dŵr o ardal fryniog, wleb. Roedd crynswth y dŵr o fudd i Gaerdydd – gan bweru ei melinau, er enghraifft – ac yn fwrn hefyd, gan iddo achosi llifogydd yn rheolaidd. Roedd cynnal a chadw pontydd yn boendod cyson yng Nghaerdydd ac yn uwch i fyny’r afon, er enghraifft ym Mhontypridd.

Wrth i chi sefyll ar ben y grisiau sy’n arwain lawr at y lanfa, edrychwch i lawr yr afon (i’r de) ar hyd y lan agosaf, tuag at bont Stryd y Castell. Pan fydd y lan goncrid yn ildio’i lle i laswellt, gallwch weld hen waith cerrig – sef gweddillion pont o’r 18fed ganrif.

Painting of Cardiff Bridge by Turner
Llun Turner o godi pont newydd Caerdydd 1795-96 (H) Tate, Llundain 2013

Adeiladwyd pont wreiddiol Caerdydd o bren, ychydig i’r gogledd. Adeiladwyr pileri maen ym 1579. Erbyn 1790 roedd yn bont garreg, ond disgynnodd un o’r pileri ym 1792. Cofnododd yr arlunydd JMW Turner godi pont newydd ym 1794-5 a newidiodd gyfeiriad y lôn i Gaerdydd o'r gorllewin.

Dengys map o 1610 yr afon yn troi tua’r dwyrain yma, tuag at ddwy long wrth y cei. Bryd hynny, dociodd llongau ar yr afon, wrth droed y llethr a elwir yn Stryd y Cei heddiw.

Roedd llifogydd yn achosi trybini mawr, yn enwedig i’r busnesau bach ar lannau dwyrain yr Afon Taf, ac ym 1797 argymhellodd ynadon Caerdydd gloddio sianel newydd ochr yn ochr â’r Bute Parc modern, i gadw’r Taf i lifo ar gwrs pendant. Yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, cafodd y cei ei symud i ddociau newydd ger yr aber, a chafodd yr Afon Taf ei chyfeirio ymhell oddi wrth yr hen geiau.

Ond daliai’r Afon Taf i greu llifogydd ym Mharc Bute a’r ardaloedd cyfagos yn y 1970au. Lleolir y parc ar hen orlifdir. Gosodwyd mesurau atal llifogydd yn y 1980au. Ym 1999, trodd morglawdd Bae Caerdydd y rhan hon o’r afon o fod yn un llanw (lle codai’r dŵr yn unol â’r llanw) i fod ar lefel gyson. Yn sgîl hyn roedd modd cyflwyno bws dŵr ar yr afon ac i’r Bae. Adeiladwyd glanfa Parc Bute ar ei gyfer.

Map  

I barhau â thaith Parc Bute, ewch nôl i’r prif lwybr a throwch i’r chwith. Mae’r côd QR nesaf cyn y borderi blodau. Pan gyrhaeddwch y man hwn, edrychwch nôl at y castell Navigation next button