Salubrious Passage, Abertawe

Salubrious Passage, Abertawe

Mae'r llwybr hwn yn arwain at stryd sydd wedi'i alw ers canrifoedd yn Salubrious Place. Ystyr "Salubrious" yw dymunol neu foethus, ond yn achos y lle hwn mae'n bosibl i'r enw gael ei ddewis i ddisgrifio nodweddion llai deniadol.

Awgrymodd y Cyrnol William Llewelyn Morgan (un o haneswyr Abertawe ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau'r 20fed ganrif) fod olion ffos y tu hwnt i furiau canoloesol y dref yn y cyffiniau. Credai fod y ffos, un o amddiffynfeydd y dref yn wreiddiol, wedi dod yn fan cyfleus i waredu sbwriel yn y pen draw. Mae haneswyr eraill yn anghytuno.

Awgrym arall yn ôl hysbyseb yn 1804 yn gosod ystafelloedd yn yr adeilad sydd dros y fynedfa i'r lôn, yw bod yr enw yn cyfeirio at draeth Abertawe sydd namyn 200 llath (c.200 o fedrau) o'r Salubrious Passage. Wedi gadael bwrlwm a mwrllwch Wind St mae'n bosibl y byddai'r rheini â'u bryd ar ymdrochi yn y môr neu gerdded drwy'r twyni yn ystyried y lôn fach hon yn iachusol.

Cul, cyfyng a bron yn unionsyth oedd y Salubrious Place a'r Salubrious Passage yn y 19eg; adeiladau ar bob tu a bwa ar bob pen.

Yn y 1950au talwyd teyrnged i'r Salubrious Passage gan Dylan Thomas mewn stori fer sy'n sôn am "Paradise Alley".

Os ydych newydd sganio'r codau QR yn ffenestr y Lighthouse Clinic, edrychwch fri a chraffu ar y cerfluniau hynod uwch eich pen. Fe'u cododwyd yno gan y llyfrwerthwr Jeff Townes, perchen Dylan's Bookstore, a oedd yma o ganol y 1970au tan 2000.

Doedd y siop wreiddiol fawr gwell na chaban. Comisiynwyd pensaer lleol, Brendan Minney, i gynllunio adeilad helaethach gan Mr Townes. Roedd i roi tŵr ar gornel yr adeilad a gosod cerub ar ben y tŵr. Gwaith Rob Coybeare yw'r cerub a rhoed pen a chwilsyn yn ei law. Mae rhubanau dur yn ei gysylltu a cherfluniau o lyfrau, lle y naddwyd geiriau agoriadol y gerdd Fern Hill gan Dylan Thomas. Gwaith saer meini coffa yw'r llyfrau, a'r bwriad gwreiddiol oedd iddynt gynrychioli Beiblau ar feddau!

Cod post: SA1 3RT    Map

Diolch i Dr Edith Evans, Jeff Towns a'r Athro Dai Thorne, ac i'r Lighthouse Clinic am ganiatáu gosod codau QR

Gwefan Jeff Towns, gwerthwr hen lyfrau

Gwefan y Lighthouse Clinic

Tales of old Wind Street Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button