Safle loc môr Camlas Morgannwg, Caerdydd

button-theme-canalSafle loc môr Camlas Morgannwg, Caerdydd

Roedd Camlas Morgannwg yn ymuno â moryd Taf yn yr ardal sydd bellach yn Barc Hamadryad, a enwyd ar ôl llong ysbyty Fictoraidd.

cardiff_canal_sea_lock

Mae'r lluniau hyn - trwy garedigrwydd Llyfrgelloedd Caerdydd - yn dangos y gamlas yn yr ardal. Cymerwyd yr olygfa o'r awyr tua 1920, ac mae'n dangos yr aber (ar lanw isel) a’r loc môr ar y gwaelod. Arweinia'r gamlas i ffwrdd ar hyd yr hyn sydd bellach yn Barc y Gamlas. Gellir gweld pont droi James Street yn croesi'r gamlas ar y chwith. Y tu hwnt i'r gamlas mae Butetown, gyda'r seidins rheilffordd a'r dociau ar dop y llun.

Roedd y rhan hon o'r gamlas, a agorwyd ym 1798, yn ddigon mawr i longau môr gyrraedd glanfeydd canol y dref - fel y llong ager a welir yng nghanol y llun. Tua'r gogledd i’r fan hon, dim ond cychod cul allai lywio drwy'r gamlas.

Roedd y loc môr yn cadw dŵr y gamlas ar lefel gyson ac yn galluogi llongau i fynd i mewn i’r gamlas neu ei gadael. Roedd yn well gan y cwmni camlesi gyflogi morwyr y Llynges Frenhinol i gadw'r loc hwn.

Daeth yr adeilad yn adnabyddus fel yr “hen loc môr” ar ôl adeiladu’r “loc môr newydd” i gael mynediad i ddociau Caerdydd. Roedd Gwesty'r Old Sea Lock yn Harrowby Street. Tynnwyd y llun ohono tua 1951, pan oedd Noah Morgan yn ddeiliad y drwydded.

Yn yr 1860au, roedd pryderon ynghylch morwyr yn lledaenu clefydau egsotig ar ôl cyrraedd Caerdydd. Cafodd ffrigad segur o eiddo’r Llynges Frenhinol, yr Hamadryad, ei throi'n ysbyty morwyr. Pan luniwyd cynlluniau i'w symud i'r aber ym 1867, roedd pobl a oedd yn byw ger yr hen loc môr yn ofni y byddai'r gwynt gorllewinol yn lledaenu germau’r cleifion ac arogleuon drwg.

cardiff_old_sea_lock_hotel

Pan sgrapiwyd y llong ym 1905, trosglwyddwyd yr enw i adeilad newydd Ysbyty Hamadryad gerllaw. Ffurfiwyd Parc Hamadryad yn yr 1970au, ac fe'i estynnwyd tua'r de yn yr 1990au ar dir a grëwyd yn ystod datblygiad Bae Caerdydd.

Gwefan Llyfrgelloedd Caerdydd

Map

Glamorganshire canal tour button link Navigation upstream buttonNavigation down stream button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button