Safle gorsaf Griffiths Crossing, ger Caernarfon

sign-out

Safle gorsaf Griffiths Crossing, ger Caernarfon

I'r gogledd-ddwyrain o’r fan yma, mae Llwybr Arfordir Cymru a Lôn Las Cymru yn pasio safle gorsaf Griffiths Crossing. Disgynodd dau etifedd i’r orsedd yn y cyffiniau hyn cyn eu harwisgiadau fel Tywysog Cymru.

Mae'r llwybr cerdded a beicio yn dilyn llwybr y rheilffordd rhwng Bangor a Chaernarfon a agorwyd ym 1852. Agorodd gorsaf Griffiths Crossing (neu Griffith's Crossing) ddwy flynedd yn ddiweddarach, fel gorsaf aros ar gais. Byddai trigolion Bethel, 2km i'r dwyrain, yn cerdded yma i ddal trenau. Roedd ystafelloedd disgwyl ar y ddau blatfform. Caeodd yr orsaf yn y 1930au.

Roedd y ffordd i eglwys a mynwent Llanfairisgaer gerllaw yn croesi’r rheilffordd ar groesfan wastad, i'r gogledd-ddwyrain o'r platfformau. Byddai galarwyr, ac weithiau'r ymadawedig, yn cyrraedd ar y trên ar gyfer angladdau.

Yn 1859 lladdwyd William Anwyl, yr orsaf feistr, a "hen wraig dlawd" eu lladd gan drên a oedd wedi derbyn cyfarwyddyd i beidio â stopio, gan nad oedd teithwyr yn aros ar y platfform. Mae’n debyg yr oedd y wraig yn brysio i ddal y tren pan syrthiodd wrth groesi’r cledrau. Rhuthrodd Mr Anwyl allan o'i dŷ a cheisiodd ei thynnu'n glir, ond cafodd y ddau eu taro.

Cyn seremoni arwisgo 1911 yng Nghastell Caernarfon, daeth siwrnai’r trên brenhinol i ben yn Griffiths Crossing. Cwblhaodd y tywysog – y Brenin Edward VIII yn hwyrach – ei daith trwy orymdeithio 3km i’r castell gyda milwyr yn ei hebrwng.

I’r de-orllewin o’r orsaf roedd seidins yn gwasanaethu safleoedd diwydiannol, gan gynnwys gwaith brics. Ym 1962 agorodd Ferodo ffatri ger y rheilffordd a wnaeth rannau brêc cerbydau ffordd. Ar ôl newid perchnogaeth daeth y ffatri yn Friction Dynamics ym 1997. Bu i’r perchennog a’r gweithlu ddadlau, ac o ganlyniad roedd streic yn y ffatri o fis Ebrill 2001 i fis Rhagfyr 2003. Caeodd y ffatri yn 2008.

Codwyd llwyfan gorsaf dros dro ger y ffatri ym 1969 er mwyn i'r Tywysog Siarl fynd oddi ar y trên brenhinol cyn ei seremoni arwisgo yn y castell.

Cod post: LL55 1UE    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button