Pont Llanelwy

Pont Llanelwy

st_asaph_bridgeAdeiladwyd y strwythur presennol ym 1770, ac mae’n debyg  mai Joseph Turner oedd y pensaer. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys carchar Rhuthun. Mae'r bont wedi’i wneud o bum bwa, o wahanol rychwantau ond wedi’u trefnu’n gymesur. Mae'r bwâu yn cario’r bont rhyw 65 metr, gan ddarparu digonedd o le i ddŵr i basio hyd yn oed pan fydd yr afon Elwy’n gorlifo.

Mae'r gwaith maen fel blaen llong ar ochr ddeheuol y bont yn helpu i leihau cryfder dŵr yr afon yn erbyn pileri’r bont. Mae'r bont yn dangos nifer o addurniadau, yn cynnwys y nodweddion o dywodfaen. Ar y bariau clymu, sy’n atgyfnerthu'r strwythur, gwelir patrwm Fleur de Lys.

Cyn 1770 roedd yna bont pren dros yr afon, ychydig ymhellach i’r gogledd. Roedd llifogydd yn aml yn niweidio’r hen bont honno.

Mae’r llun uchaf yn dangos y bont yn y 1890au, gyda’r gadeirlan yn y pellter.

st asaph bridge on empire dayMae’r llun isaf yn dangos gorymdaith yn croesi’r bont at Ddiwrnod yr Ymerodraeth, Mai 1909. Dwy flynedd yn gynharach, ar Mai 21 1907, roedd swyddogion wedi gwneud arolwg traffig ar y bont o 7yb tan 9yh a chyfrif 82 o geir modur, 845 a feicwyr, 390 cerbyd a 1,583 o gerddwyr.

Codwyd pont troed dur ochr yn ochr â'r bont ffordd ym 1968, i wahanu cerddwyr oddi wrth y traffig cerbydol a oedd yn tyfu. Mae'r bont droed yn tueddi cuddio'r bont o'r de. Y lle gorau i edrych ar y strwythur ydi o'r llwybr glan yr afon ar yr ochr ogleddol.

Map

Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button