Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr

clynnog_fawr_church_old_drawingRoedd Sant Beuno yn byw yn y 6ed ganrif. Yng Nghlynnog Fawr sefydlodd clas, sefydliad yr Eglwys Geltaidd a oedd rhywle rhwng fynachlog a choleg. Ar ôl ei farwolaeth, daeth ei gysegrfa a’i ffynnon yn fan ymgynnull ar gyfer pererinion ar eu ffordd i ynys sanctaidd Enlli.

Ordeiniwyd Beuno ym Mangor. Daeth Cadfan, brenin Gwynedd, yn noddwr iddo am ei waith cenhadol. By anghydfod tir rhwng Beuno a Chadwallon, mab y brenin. Daeth y mater i ben gyda chefnder Cadwallon yn rhoi tir ar gyfer clas yng Nghlynnog Fawr i Beuno a Duw.

Claddwyd olion Beuno yng Nghlynnog Fawr, a fe’u symudwyd yn ddiweddarach i mewn i’r eglwys bresennol. Credir mai’r rhan hynaf o'r eglwys yw’r groesfan ddwyreiniol, o'r 1480au. Ymestynwyd y corff (“nave”) tua'r gorllewin tua 1500, pan ychwanegwyd ardal y côr a’r gangell hefyd. Mae'r tŵr gorllewinol a’r festri dwy-lawr yn dyddio o ddechrau'r 16eg ganrif. Cafodd yr adeilad ei adfer yn nghanol y 19eg ganrif, ond heb lawer o ddifrod i’r ffabrig canoloesol.

clynnog_fawr_old_drawingDisgrifiodd Thomas Pennant yr eglwys fel “y strwythur mwyaf godidog o’i fath yng Ngogledd Cymru”. Daw'r lluniau a ddangosir yma (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru) o'i lyfrau am ei deithiau yng Nghymru yn y 1770au ac fe'u crewyd gan Moses Griffiths, yr arlunydd a gyflogodd. 

Ysgrifennodd Pennant y byddai beddrod Beuno, mewn capel ger yr eglwys, yn cael ei orchuddio â brwyn er mwyn i blant sâl gysgu arno am noson, ar ôl iddynt olchi gyda dŵr o’r ffynnon sanctaidd gyfagos. Un tro fe welodd Pennant wely plu ar y beddrod, lle roedd paralytig druan o Feirionnydd wedi gorwedd am noson gyfan.

Nododd Pennant bod y traddodiad yn parhau o fynd ag ŵyn neu loi a anwyd â chlustnod naturiol o’r enw Nôd Beuno i’r eglwys ar benblwydd y sant er mwyn i’r wardeniaid eu gwerthu. Defnyddid yr elw i helpu’r tlodion neu atgyweirio’r eglwys, a chadwyd y pres yng Nghyff Sant Beuno, cist wedi'i gwneud o un darn o dderw a'i gau gyda chloeon triphlyg.

Mae'r tu mewn yn nodedig am ei gwaith coed hynafol, yn cynnwys misericords – seddau clwyd anffurfiol i ysgafnhau'r baich ar y coesau pan fyddai pobl yn sefyll drwy gydol gwasanaeth hir. Mae'r sgrin crog yn dyddio o 1531, a'r pulpud wythonglog o tua 1700. Hefyd i’w gweld y mae pâr o efeiliau ci, a ddefnyddid gynt i ddiarddel cŵn aflonyddgar.

Mae clychau'r eglwys yn dyddio o 1623, 1624 a 1924. Digrifiwyd un gloch ym 1821 yn gorwedd ar y ddaear, gyda hollt ynddi. Crewyd ffrâm cloch newydd ym 1924 gyda lle i dri o glychau, fel gyda’i rhagflaenydd o’r 18fed ganrif.

Yn y fynwent mae deial haul hynafol – 10fed ganrif hyd at ddechrau'r 12fed. Hefyd bedd Eben Fardd, bardd enwog a redai ysgol yn yr eglwys hyd 1849.

Côd post: LL54 5PB    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button