Eglwys Beuno Sant, Pistyll

button-theme-pow

Eglwys Beuno Sant, Pistyll

Yn y 6ed ganrif, roedd y fan hon yn le o unigedd i Beuno, cenhadwr diflino. Yn ddiweddarach daeth yn hosbis i bererinion a oedd yn teithio i Ynys Enlli.

Mae'r eglwys bresennol yn bennaf yn dyddio o'r 15fed ganrif, peth ohono o bosibl o'r 12fed. Yn ôl Cadw, gwnaed y waliau o rwbel a rhyolit ac mae’r tu fewn yn cynnwys pum bae o'r 15fed ganrif. Roedd gan yr eglwys do gwellt tan ddechrau'r 20fed ganrif, pan grewyd to llechi. Gellid gweld yn y gwaith coed y tyllau ar gyfer y rhaffau a oedd yn clymu’r to gwellt i lawr.

Mae llawr yr eglwys yn dal i gael ei orchuddio gyda brwyn a pherlysiau, traddodiad hir. Mae'r bedyddfaen yn dyddio o'r 11eg ganrif. Ar un o'r waliau y tu mewn mae paentiad wal hynafol yn dangos dau o bobl. Cynhelir gwasanaethau bob mis yn yr eglwys, ar Noswyl y Nadolig ac i ddathlu Lammas yn Awst.

Photo of grave of actor Rupert DaviesYn ardal ucha'r fynwent y mae bedd yr actor Rupert Davies (1916-1976), sydd fwyaf adnabyddus am chwarae’r ditectif Maigret ar y teledu. Roedd ei gyflwyniad i actio yn rhyfeddol. Daeth yn is-lefftenant arsyllwr gydag Adran Awyr y Llynges yn yr Ail Ryfel Byd, ond ym 1940 chwalwyd ei awyren. Cafodd ei garcharu yn Stalag Luft III, y wersyll carcharorion rhyfel sy’n enwog am y ddihangfa ym 1943 gan nifer o’r carcharorion, a oedd wedi defnyddio ceffyl neidio i guddio’r twnnel y palent.

Roedd cuddio’r cyfaint cynyddol o wastraff o'r twnnel yn broblem, hyd nes yr addasodd carcharorion un o’r seddi yn theatr y gwersyll ar gyfer storio’r pridd. Bu criw theatr y gwersyll, gyda Davies yn eu plith, yn ymarfer yn ddyddiol i dynnu sylw oddi ar y gweithgaredd anghyfreithlon.

Mae’r enw Pistyll yn cyfeirio at y ffynnon islaw Fferm Pistyll, ger yr eglwys. Cofnodwyd yr enw yn 1254 fel Pistibus, cynrychioliad mae’n debyg o’r Lladin pistillus – sef gwraidd pistyll yn Gymraeg.

Gyda diolch i’r Athro Hywel Wyn Owen o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru am fanylion yr enw lle

Côd post: LL53 6LR    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button