Eglwys St Eilian, Llaneilian

Eglwys St Eilian, Llaneilian

Dyma un o eglwysi canoloesol gorau Gogledd Cymru sydd wedi ei chadw yn ei chyflwr gwreiddiol gan fwyaf. Fe’i cofrestrwyd  fel Gradd 1 ac mae iddi dwr ocr ei liw sy’n annisgwyl a tho siâp pyramid.

Adeiladwyd yr eglwys drwy gefnogaeth ariannol hael Caswallon Lawhir (Tywysog Rhanbarthol a rodd ei wrogaeth i Sant Eilian c.4500). Mae’r gwaith cerrig cynharaf yn ffurfio’r twr, yn dyddio o 1175 hyd at y 15ed ganrif.

Cafwyd stori Sant Eilian gan y bardd Gwilym Gwyn o’r 16eg ganrif. Dychmygol ond diddorol. Fe anfonwyd Eilian i Fôn gan y Pab fel cennad i Gaswallon Lawhir, pennaeth Môn. Daeth Eilian a’i deulu gyda nifer o ych ond fe gipiodd Caswallon ei ych. Mewn dialwch fe ddallodd Eilian y brenin ond fe darwyd bargen. Cai’r brenin ei olwg yn ôl gan Eilian os y cai hynny o dir ag y galliai hydd ei redeg tra’n cael ei hela. Yna sefydlodd eglwys ar y safle tua 450.

Mae Capel Caswallon yn adeilad cerrig o’r 14eg ac wedi eu gysylltu â’r gysegr a thramwyfa 4.4 x 3.7 metr. Hefyd, fe’i enwir fel Capel Sant Eilian.

Adnewyddwyd yr eglwys yn 1929. Fe gyflawnwyd atgyweiriad pwysig a mawr ond heb fod yn rhy amlwg yn 2002.

Oddi fewn ceir cist bren gerfiedig o’r enw Cyff Eilian a ddyddwyd o 1667. Ei phwrpas oedd gwarchod cyfraniadau’r pererinion. Ar y sgrin grog (1496) ceir peintiad o sgerbwd a thraed carnog gyda baner uwch ei ben yn datgan: ‘Colyn angau yw pechod’.

Amlinell arall ar y sgrin all fod yn wyneb Crist yn nhraddodiad sgrin Feronica. Feronica oedd yr un a sychodd chwys wyneb yr Iesu ar ei ffordd i’r groes ac ar ei chadach, yn ôl traddodiad, fe adawyd lun o wyneb yr Iesu arno. O fod yn gywir, hwn yw’r unig ddelwedd iconograffig o’i fath o’r oesoedd canol yng Nghymru. Rhyw efelychiad o amwisg Turin.

Yn ôl bardd o ddiwedd yr 16eg ganrif fe ddaeth Sant Eilian o Rhufain yn niwedd y bumed ganrif neu ar ddechrau’r chweched. Fe ddaeth arlliw wyneb Crist ar y cadach yn fantais i Laneilian gan iddo gael ei gopïo ar fetel a felwm a’i werthu i bererinion yn Rhufain yr amser yma.

Ymhellach, mae yna efeiliau cŵn anystywallt yn yr eglwys. Mae yna bar o efeiliau o 1748 i daflu allan gŵn anystywallt.

Ceir sawl cof lechen yn y fynwent i nodi beddi sawl capten o longau oes Fictoria ac o’r ceidwyr cyntaf ac olaf i Oleudy Trwyn Eilian.

Fe ddethlir gŵyl Sant Eilian ar Chwefror y 13eg. Ceir adfeilion Ffynnon Sant Eilian tua 800 metr i’r gogledd orllewin, dros y ffordd a ger llwybr yr Arfordir Cymru.

Gyda diolchiadau i Roy Ashworth. Cyfieithiad a throednodiadau gan Gwyndaf Hughes

Cyfeirnod grid: SH469929 Map

Troednodiadau – mwy am y safle

Math o fynachlog neu gymuned Gristnogol gynnar oedd y clas. Dyna oedd St Eilian ar y cychwyn. Daw'r enw o'r Lladin monastica classis. 'Claswr' oedd y gair am aelodau'r clas.

Mae corff yr eglwys yn dyddio o ddiwedd y 15ed ganrif, y cyntedd o ddechrau’r 16eg ganrif, y twr gorllewinol o’r 12ed ganrif a chapel St Eilian oedd ar wahân o ddiwedd y 19eg ganrif.

Ceir croesau cysegru yn y corff ac ar y gangell o 1480 ac 1481 ar fwtres y corff. Mae i’r rhan hwn o’r eglwys ysblander sydd oruwch ei maint. Priodolodd y bardd Tudur Aled hyn i’r rheithor Nicholas ab Ellis, archddiacon Môn yn 1474. Mae esgyll un o englynion Tudur Aled wedi dod yn ddiarhebol:

Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo'i wreiddyn.

Fe lenwir bwa’r gangell â sgrin brin a oroesodd o’r 15ed ganrif ac uwch ei phen mae’r grog lofft yn bwáu allan i gorff yr eglwys. Gellir cyrraedd hon drwy risiau troellog yn ne orllewin yr eglwys ac yn esgyn i dwred isel. Mae’r seddi côr cerfiedig yn dal yn y gangell. Gwelir angylion yn chwarae offerynnau a nodweddion eraill ar y nenfwd. Hefyd ceir arlliw o beintiadau wal ôl ganoloesol.