Eglwys San Pedr, Caerfyrddin

Eglwys San Pedr, Caerfyrddin

Anodd dirnad hyn efallai, ond ar un adeg roedd yr eglwys hon yn eiddo i Abaty Battle yn Sussex! Cyflwynwyd yr eglwys i’r abaty gan y brenin Harri’r Cyntaf yn gynnar yn y 12fed ganrif.

Erbyn y cyfnod hwnnw, mae’n debygol bod Cristnogion wedi bod yn addoli yma ers canrifoedd. Mae’r fynwent gron wreiddiol (cyn newid ei ffurf er mwyn gwella’r heol) yn awgrymu iddi gael ei sefydlu gan genhadon Celtaidd, ychydig y tu mewn i borth orllewinol yr hen furiau Rhufeinig.

Cafodd yr eglwys ei throsglwyddo o Abaty Battle i Briordy Caerfyrddin yn 1125. Newidiwyd yr adeilad lawer gwaith. Efallai fod corff yr eglwys a’r gangell yn dyddio o’r 13eg neu’r 14eg ganrif. Cafodd y porth ei adeiladu tua diwedd y 15fed ganrif neu’n gynnar yn yr 16ed ganrif pan ail-godwyd y tŵr. Y tu mewn i’r porth fe welwch allor Rufeinig a chlawr arch o’r 13eg ganrif.

San Pedr yw’r unig eglwys yng Nghymru lle y cynhelid llys eglwysig. Yma roedd esgobaeth Tyddewi yn trafod achosion o anghydfod priodasol a phynciau eraill. Yma yn 1555 y clywodd yr esgob Henry Morgan yr achos yn erbyn ei ragflaenydd Robert Ferrar  a gyhuddwyd o heresi. Protestant oedd Ferrar  a wrthododd droi yn Babydd fel y mynnai’r wladwriaeth. Llosgwyd ef wrth y stanc ym marchnad Caerfyrddin ar 30 Mawrth 1555.

Mae cistfaen Syr Rhys ap Thomas un o wroniaid Brwydr Bosworth mewn man amlwg yn yr eglwys. Mae delw ohono ef a’i wraig ar ben y bedd. Pwyswch yma am fanylion.

Yn y gangell fe gewch hyd i fedd Walter Devereux, Iarll Essex, un o ffefrynnau’r frenhines Elizabeth. Cludwyd ei gorff yma yn dilyn ei farwolaeth yn Iwerddon yn 1576. Fe oedd Iarll Farsial y frenhines (y swyddog oedd yn gyfrifol am seremonïau’r wladwriaeth) yn y wlad honno.

Bedd nodedig arall yma yw eiddo Charlotte Dalton. Bu hi farw yn 27 oed yn 1832. Ei thadcu oedd Siôr III trwy ei briodas ddirgel honedig â Hannah Lightfoot yn 1759. Ganwyd tri o blant i’r pâr gan gynnwys Catherine Augusta. Priododd hi â James Dalton, meddyg o Gaerfyrddin, yn 1823. Ni chafodd y briodas flaenorol ei diddymu cyn i’r brenin briodi â Charlotte o Mecklenburg-Strelitz yn 1761.

Mae organ yr eglwys gan George Pike England, yn dyddio o 1796. Honnir mai ar gyfer castell Windsor y bwriadawyd yr organ ond cafodd ei rhoi i’r eglwys gan Siôr y Trydydd. Bwriwyd pedair o wyth cloch yr eglwys yng Nghaerloyw yn 1722.

Yn y fynwent, ar du gogleddol yr eglwys, ar ffurf bwrdd, mae bedd y Cadfridog Syr William Nott.. Roedd yn arweinydd milwrol poblogaidd ac mae cerflun i’w goffáu yn Sgwar Nott. Yn ôl adroddiadau yn y wasg, ei orymdaith angladdol ef yn 1845 oedd y fwyaf a welwyd erioed yng Nghymru.

Cyfieithiad gan yr Athro Dai Thorne

Côd Post: SA31 1GW    Map

Gwefan yr eglwys