Safle llwytho cwch y wraig gryf, Nant Peris

button-theme-womenSafle llwytho cwch y wraig gryf, Nant Peris

Arferai’r wraig gryf chwedlonol Marged uch Ifan (1696-1793) rwyfo mwyn copr o’r ardal hon i Gwm-y Glo, 7km i ffwrdd.

Gwelodd yr ardal lawer o newidiadau ers ei chyfnod hi, yn enwedig pan ddefnyddiwyd Llyn Peris ar gyfer Gorsaf Trydan-Dwr Dinorwig yn ystod y 1980au. Cafodd colofn o gerrig ar lan y llyn ei dymchwel. Yma roedd Marged yn angori ei chwch, a chai’r golofn ei hadnabod fel Pilar Marged.

Photo of Llanberis copper works c1860Roedd copr yn cael ei gloddio allan o’r llethrau uwchben y lle aros hwn. Mae’r hen lun (trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru – the National Library of Wales) yn dangos gwaith copr rhwng y ffordd a’r llyn c.1860.

Byddai Marged yn cario ei llwyth trwm ar hyd llynoedd Peris a Phadarn ac ymlaen heibio i ble saif Pont Pen y Llyn heddiw. Roedd angen iddi rwyfo’r cwch gwag yn ol yn erbyn llif y dwr.

Un agwedd o fywyd Marged oedd gwaith rhwyfo. Roedd hefyd yn cadw tafarn, yn pedoli ceffylau, yn ymaflyd codwm (efo dynion), hela a chwarae’r delyn. Roedd hefyd yn saer coed crefftus, yn adeiladu ei thelyn ei hun a’i chwch. Mae’n debyg iddi gael ei geni ym mhlwyf Beddgelert, ac iddi symud i Ben Llyn gyda’i gwr Richard Morris.

Tyfodd llawer o chwedlau am Marged; amryw yn adrodd fel y deliodd a dynion oedd yn amau ei chryfder! Mae hanes arall yn adrodd sut y cynorthwyodd i adeiladu y bont sydd gerllaw Eglwys Sant Peris – Pont y Meibion. Os dilynwch y llwybr o’r giat dowch at y bont: un crawen o lechfaen ar draws yr afon. Roedd angen meibion Nant Peris i godi un ochr, tra’r oedd Marged yn codi’r ochr arall ei hun.

Gyda diolch i Dafydd Thomas a Gwyndaf Hughes

Cod post: L55 4UD    Map

button-tour-quarry-path Navigation next buttonNavigation previous button