Cymraeg Tal-y-cafn bridge

button-theme-powPont Tal-y-cafn

Ers canrifoedd mae Tal-y-cafn wedi bod yn fan i groesi’r afon Conwy. Ar un adeg roedd gwartheg, ar eu ffordd i’r farchnad, yn nofio ar draws yr afon pan fyddai’r llanw’n isel. O’r cyfnod canoloesol hyd 1897, roedd fferi’n darparu cludiant ar gyfer teithwyr a da byw. Llwyfan oedd y fferi, ynghlwm wrth raff ar draws yr afon. Denodd yr olygfa o’r fferi a’r tirlun amryw artistiaid yn y 19eg ganrif. Gallwch weld ffotograff o'r fferi yma (gwefan Casgliad y Werin).

Disodlwyd fferi Tal-y-Cafn ym 1897 gan bont gyda rhychwantau dur yn gorffwys ar golofnau o garreg a choncrid. Cadwyd y gwaith maen pan osodwyd y rhychwantau presennol yn eu lle ym 1977. Mae’r rhain hefyd o ddur, gan ddefnyddio dyluniad modiwlaidd a batentwyd gan Archibald Milne Hamilton ym 1935.

Peiriannydd sifil o Seland Newydd oedd Hamilton. Yn y 1920au hwyr a'r 1930au cynnar, gweithiodd ar ffordd newydd rhwng Irac ac Iran trwy Kurdistan. Defnyddiodd ddarnau sbar o bontydd y fyddin ar gyfer y ffordd, ond roedd rhannau a oedd yn deillio o wahanol bontydd yn anghydnaws. Rhoddodd hyn y syniad iddo o greu set o gydrannau safonol y gellid ei ffitio gyda’i gilydd mewn ffyrdd gwahanol, i weddu i'r amgylchiadau lleol. Mae ei system wedi cael ei ddefnyddio'n helaeth gan y fyddin ar gyfer pontydd sydd i bara’n hirach na rhychwantau dros dro ar gyfer ymosodiadau.

Ym mis Medi 1944, neidiodd Eidalwr o’r enw Francesco Astolfo, 34, o'r bont a boddi yn yr afon. Roedd yn garcharor rhyfel ac wedi bod yn gweithio ar fferm gyfagos. Glywodd ei gwest ei fod yn isel, ar ôl clywed dim gan ei wraig a'i blant. Roedd yn credu eu bod wedi marw yn y rhyfel yn ne’r Eidal. Claddwyd ef ar y Gogarth gydag offeiriad Eidaleg yn dyfarnu, baner yr Eidal dros ei arch a llawer o'i gyd-garcharorion yn bresennol. Ym 1953 cafodd fe'i ail-gladdwyd ef ym Mynwent Filwrol Yr Eidal yn Surrey.

Map o’r lleoliad

Côd post: LL28 5RR

Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button