Neuadd y Dref Talgarth

PWMP logoNeuadd y Dref, Talgarth

Codwyd yr adeilad hwn fel cyfuniad o neuadd i’r dref a ‘marchnaty’. Dyma gartref Cyngor Tref Talgarth.

Gosodwyd y garreg sylfaen ym mis Gorffennaf 1877 gan WF Roche o Barc Tregunter a oedd wedi rhoddi cyllid at yr adeilad. Un o’r digwyddiadau cyhoeddus cynharaf i’w cynnal yn yr adeilad, ym mis Hydref 1878, oedd sgwrs am y mudiad dirwest (a fu’n ymgyrchu i leihau maint yr alcohol roedd y cyhoedd yn ei yfed). Llwyfannwyd sioeau theatrig yn y neuadd a gafodd ei thrwyddedu yn nes ymlaen i ddangos ffilmiau hefyd.

Cynhelid Gŵyl Ddewi flynyddol yn neuadd y dref ar ddechrau’r 20fed ganrif. Wedi’i threfnu gan fyfyrwyr yng ngholeg diwinyddol Trefeca, byddai’r digwyddiad yn cynnwys cerddoriaeth, areithiau a pherfformiadau dramatig.

Ar 6 Awst 1914, ddeuddydd ar ôl i Brydain gyhoeddi rhyfel yn erbyn yr Almaen, cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y dref i annog dynion lleol i listio yn y lluoedd arfog. Cyn y digwyddiad, gorymdeithiodd milwyr tiriogaethol (milwyr wrth gefn) drwy strydoedd Talgarth y tu ôl i’w band biwglau. Ar ôl areithiau gwlatgar yn y cyfarfod rhuthrodd tua 20 o ddynion i gyflwyno eu henwau a’u cyfeiriadau.

Erbyn 1916 roedd ffocws y digwyddiadau yn y neuadd wedi troi at helpu’r clwyfedigion. Cynhaliodd cerddorion lleol gyngerdd yma i godi arian ym mis Tachwedd 1916. Mor llwyddiannus oedd y digwyddiad nes iddo gael ei ailadrodd ddeuddydd yn ddiweddarach.

Cafodd baneri eu hongian ar hyd y neuadd ym mis Chwefror 1918 ar gyfer cyngerdd a dawns i godi arian i Alun Havard oedd wedi colli ei ddwygoes wrth wasanaethu gyda’r Magnelwyr Maes Brenhinol ar Ffrynt y Gorllewin. Aeth y dawnsio ymlaen tan 3yb.

Codwyd plac pres oedd yn rhestru meirwon y rhyfel yn neuadd y dref toc ar ôl i’r brwydro ddod i ben ond yn nes ymlaen fe’i claddwyd o dan gofeb ryfel y dref. Fe’i datgloddiwyd yn y 1980au. Yn 2016, fe’i hadferwyd gan Gymdeithas Hanesyddol Talgarth a’r Cylch a’i ddychwelyd yn ei ffrâm bren wreiddiol i neuadd y dref.

Cod post : LD3 0BW    Map

Gwefan Cyngor Tref Talgarth

Talgarth war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button