Cymraeg The Bandstand, Llandudno

Button link to kids version of page

photo_of_mobile_bandstandY llwyfan band, promenâd Llandudno

Pan ffurfiwyd Seindorf Tref Llandudno ym 1910, penderfynwyd bod angen llwyfan band ar y promenâd. Nid oedd y gwestywyr yn hapus i gael y swn y tu allan i'w gwestai, felly caffaelodd y cyngor lwyfan band symudol, ar olwynion. Y “juggernaut” oedd llysenw hwn (gweler y llun uchaf). Gellai ceffylau ei lusgo i unrhyw ran o'r promenâd, er mwyn i’r band i berfformio mewn unrhyw fan o’r Dyffryn Hapus i Graig y Don. Roedd mewn cyflwr sal erbyn 1925, felly adeiladodd y cyngor lwyfan band parhaol. Agorwyd hwn ym 1926 ac mae’n parhau i gael ei ddefnyddio heddiw.

Roedd Seindorf Tref Llandudno yn lwyddiant ysgubol o dan ei arweinydd cyntaf, Francis Traversi, ac fe ddaeth yn un o brif atyniadau Llandudno. Roedd y band yn un o'r ychydig ym Mhrydain i gynnal rhaglen lawn drwy gydol y Rhyfel photo_of_llandudno_town_bandByd Cyntaf, pan oedd sawl aelod o’r band wedi gwirfoddoli ar gyfer y fyddin.

Un aelod fu farw yn y rhyfel oedd Sidney Edwards, 21, o Heol Cwlach. Prentisiwyd ef i blymwr lleol cyn ymrestru yn 1915 yn y Welsh Horse Yeomanry. Ym mis Ebrill 1916 roedd yn rhan o grŵp a anfonwyd i Ddulyn er mwyn atal Gwrthryfel y Pasg. Yn ddiweddarach fe’i trosglwyddwyd i’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig a’i anfon i Ffrynt y Gorllewin, lle cafodd ei ladd ar faes y gad ar 29 Hydref 1918, lai na phythefnos cyn y Cadoediad.

Ar ôl y rhyfel, cychwynodd y band i ailadeiladu a datblygu. Parhaodd y safon gerddorol i wella ac enillodd y seindorf lawer o wobrau mewn eisteddfodau lleol.

Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, dechreuodd Francis Traversi grŵp dysgwyr. Yn fuan graddiodd y dysgwyr i'r band uwch, i lenwi bylchau a adawyd gan ddynion a ymunodd â'r lluoedd arfog neu a oedd yn ymgymryd â gwaith rhyfel hanfodol. Yn ogystal â'r cyngherddau arferol, roedd y band yn chwarae i gefnogi digwyddiadau codi arian megis 'Salute the Soldier' ​​a 'Wings for Victory'. Arweiniodd  'Wythnos llong ryfel' at gomisiynu HMS Llandudno, ar ôl i bobl Llandudno godi £222,000 ym mis Tachwedd 1941.

photo_of_ve_day_parade_llandudnoO dan arweiniad Robin Williams, ennillodd y seindorf le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Bandiau Pres y Daily Herald yn Llundain ddwy flynedd yn olynol, gan ennill yr ail wobr yn 1956. Datblygodd yr adloniant gyda'r nos ar y promenâd i gynnwys cystadlaethau talent. Mae’r perfformiadau, ddwywaith yr wythnos, yn parhau heddiw yn yr haf.

Roedd y llwyfan band hefyd yn ganolbwynt ar gyfer gorymdeithiau sifil a milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Byddai urddasolion milwrol yn cymryd y saliwt gan sefyll ar y llwyfan. Ar Ddiwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop ymunodd aelodau o Fyddin Tir y Merched â gorymdaith enfawr (gweler y llun ar y dde) ar y promenâd.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Gwefan Seindorf Tref Llandudno

Gyda diolch i Adrian Hughes, o amgueddfa Home Front, Llandudno, a John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno & Bae Colwyn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button