Pont Cleddau

Pont Cleddau

Photo of collapsed Cleddau Bridge section in 1970
Y rhan o'r bont a gwympodd ym 1972,
trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Mae Pont Cleddau yn arbed taith o 48km o amgylch rhannau uchaf dyfrffyrdd y Cleddau. Cyni’r bont agor yn 1975, roedd fferi yn teithio'n ôl ac ymlaen rhwng y glannau. Roedd y fferi olaf yn ddigon mawr i gario 24 cerbyd a 250 o gerddwyr ar y tro.

Roedd datblygiad dyfrffordd Aberdaugleddau fel canolfan i’r diwydiant olew yn gatalydd i adeiladu'r bont. Roedd y prosiect yn cynnwys pont arall, dros Westfield Pill, i'r gogledd o’r prif bont. Dyfarnwyd contract adeiladu £2.1m ym mis Medi 1968, gyda'r nod o gwblhau’r gwaith erbyn mis Mawrth 1971. Ond cwympodd rhan o'r bont ar 2 Mehefin 1970, gan ladd pedwar o’r gweithwyr. Yn ffodus, ni anafwyd neb yn y pentrefan, Pembroke Ferry, o dan y bont.

Ailddechreuodd yr adeiladu ym 1972. Agorodd y bont bedair blynedd yn hwyrach na’r bwriad gwreiddiol.

Mae’r luniau, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos y gwaith adeiladu ar y bont. Mae’r llun uchaf yn dangos y rhan a gwympodd ym 1970. Daw o Gasgliad Sleidiau D.B. Hague Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Mae’r llun isaf yn dangos y rhan ganolig yn cael ei chodi i’w safle ym 1974. Daw o Gasgliad y Swyddfa Gwybodaeth Ganolig Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Photo of Cleddau Bridge construction in 1974
Adeiladu'r bont ym 1974, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Ym mlwyddyn gyntaf y bont, croesodd tua 886, 000 o gerbydau. Yn 2008-09 cariodd Pont Cleddau mwy na 4.6 miliwn o gerbydau. Yn 2002-04 fe atgyfnerthwyd y strwythyr, ac ail-wynebwyd y ffordd, ar gost o £ 4.4m.

Mae prif rhychwant y bont yn mesur 213 metr o hyd, ac mae o leiaf 37 metr o uchder rhyngddo a’r dŵr. Mae'r bont yn cario'r A477, Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr 4 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Cyngor Sir Penfro sy’n berchen ar y bont ac yn ei redeg. Codwyd toll ar gerbydau ffordd (ond nid ar gerddwyr a beicwyr) tan Ebrill 2019, pryd y rhoddodd Llywodraeth Cymru £3m y flwyddyn i’r cyngor i’w ddigolledi am y refeniw y byddai’r cyngor yn ei golli.

Côd post: SA72 6FD    Map

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button