Y Guildhall, Aberhonddu

PWMP logoY Guildhall, Aberhonddu

Mae Guildhall wedi bod yma ers oddeutu 700 mlynedd. Cafodd yr adeilad presennol, a elwir hefyd yn neuadd y dref, ei godi yn 1770 gyda neuadd farchnad ar y llawr gwaelod. Credir bod y seler yn dyddio’n ôl i’r 1620au.

Ym mis Chwefror 1826 cyfarfu trigolion y fwrdeistref yma i drafod diddymu caethwasiaeth yn y Caribî. Fe gytunon nhw i anfon deiseb i’r Senedd a oedd yn dadlau bod caethwasiaeth yn “greulon, yn anghyfiawn ac yn uniongyrchol niweidiol i Gyfansoddiad Llywodraeth Prydain”, ac y byddai cael gwared ar y doll fawr ar siwgr wedi’i fewnforio yn helpu gyda diddymu caethwasiaeth. Diddymodd Prydain gaethwasiaeth yn 1833.

Arweiniodd addasiadau a ddechreuodd yn 1888 at greu llys ynadon ar y llawr gwaelod a theatr i fyny’r grisiau. Roedd traddodiad o gynnal dramâu a mathau eraill o adloniant yn y Guildhall yn bodoli eisoes. Un o’r achosion cyntaf yn y llys oedd achos Minnie Price, 50 oed, a oedd yn cadw puteindy. Cafodd ei charcharu am fis yn 1893 ar ôl i filwyr a sifiliaid gael eu gweld yn mynd i mewn i’w thŷ yn y Struet.

Cynhaliwyd llawer o ddigwyddiadau yma yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Penderfynodd yr etholfreintwyr lleol (a fu’n dadlau o blaid rhoi’r bleidlais i ferched ond heb ddefnyddio tactegau milwriaethus y swffragetiaid) ohirio eu hymgyrchu er mwyn canolbwyntio ar godi arian a darparu nyrsys ar gyfer ysbytai yn Ffrainc a Serbia. Cynhaliwyd cyfarfod ganddynt yn neuadd y dref ym mis Ionawr 1915 lle bu gwestai o Lundain yn sôn am waith menywod adeg rhyfel.

Yn 1917 cynhaliwyd cyngerdd yma gan gerddorion dall er budd milwyr a oedd wedi colli eu golwg yn y rhyfel. Cynhaliwyd digwyddiadau eraill i godi arian i’r Gymdeithas Nyrsio a’r ysbyty milwrol yn Penoyre.

Defnyddiwyd neuadd y dref hefyd i dynnu sylw at ba mor anniogel yr oedd cyflenwad bwyd Prydain. Cafodd perchnogion tai wybod bod dyletswydd arnynt i dyfu bwyd ym mhob llathen sgwâr o’u gerddi. Ym mis Ebrill 1918, cynhaliwyd rali yma i recriwtio menywod ar gyfer Byddin Dir y Merched a Chorfflu Cynorthwyol Byddin y Merched. Dywedwyd y byddai pob menyw a fyddai’n listio yn rhyddhau un dyn i fynd i flaen y gad.

Daeth llawer o ddynion i’r Guildhall i ddadlau na ddylai fod yn rhaid iddynt ymladd, neu bu eu rhieni neu’u cyflogwyr yn pledio eu hachos. Yn ystod un diwrnod yn unig yn 1916, clywodd tribiwnlys milwrol y sir bron i 30 o apeliadau yma yn erbyn gorfodaeth filwrol, a chyflwynwyd rhai o’r apeliadau hynny gan wrthwynebwyr cydwybodol.

Ym mis Ionawr 1919, cynhaliodd Cymrodyr y Rhyfel Mawr seremoni yma a oedd yn cynnwys cyflwyniadau i ddynion lleol a oedd wedi ennill anrhydeddau yn y rhyfel. Roedd y sawl a oedd yn bresennol yn cynnwys John Williams (neu John Fielding) y cyflwynwyd Croes Fictoria iddo ar ôl Brwydr Rorke’s Drift yn 1879. Roedd wedi listio am yr eilwaith yn 1914, a bu’n gweithio ym mhencadlys y fyddin yn Aberhonddu.

Ers 1974 mae’r Guildhall wedi bod yn gartref i Gyngor Tref Aberhonddu. Mae hefyd yn lleoliad sydd wedi’i drwyddedu ar gyfer priodasau.

Cafodd rhan o’r ffilm On the Black Hill, a ryddhawyd yn 1988, ei ffilmio yn siambr y cyngor. Roedd y golygfeydd a ffilmiwyd yma’n ymwneud â dynion a oedd yn ceisio osgoi gorfodaeth filwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Cod post : LD3 7AL    Carte

I barhau â’r daith ‘Aberhonddu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf’, cerddwch tua’r gorllewin ar hyd y Stryd Fawr, heibio i'r Sarah Siddons Inn. Dechreuwch gerdded i lawr Heol y Defaid. Mae’r codau QR nesaf wrth ymyl siop trin gwallt Ship Shape
Brecon war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button