Twthill, Caernarfon

tour logo and link to information pageTwthill, Caernarfon

Bu'r twmpath creigiog hwn unwaith yn safle brwydr yn "Rhyfeloedd y Rhosynnau", ym 1461. Mae hanes milwrol y safle yn mynd yn ôl ymhellach. Credir i’r ffosydd bas yn y graig ddeillio o system amddiffyn cynhanesyddol neu o gastell mwnt a beili diweddarach.

Photo of view from Twthill in 1968
Golygfa o Twthill ym 1968, trwy garedigrwydd CBHC a'i wefan Coflein

Mae’r hen lun, trwy garedigrwydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, yn dangos yr olygfa tua’r castall ym 1968, cyn i’r ffordd osgoi wahanu’r bryn o ganol y dref. Daw o Gasgliad Ffotograffig D.O.E. Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru.

Daw’r enw Twthill o'r Hen Saesneg (Eingl-Sacsonaidd) tõt hyll, sy'n golygu "bryn arsyllu". Fel arfer mae'n cyfeirio at fryn amlwg yn agos at gastell lle y gallai arsylwyr weld gelyn yn agosáu. Yng Nghaernarfon, cofnodwyd yr enw fel Tothille yn 1399 ond roedd yn sicr yn bodoli lawer yn gynharach. Ceir Toot Hill yn Lloegr (mewn amrywiol ffurfiau). Gwelir yr enw hefyd yn nhrefi caerog Rhuddlan, Harlech a Chonwy, ac fel Tuttle Street yn Wrecsam.

Erbyn hydref 1461, roedd y Lancastriaid (cefnogwyr y Brenin Harri VI) wedi cael eu gwasgu gan y Iorciaid a’r brenin newydd, Edward IV, a anfonodd fyddin i gipio’r cadarnleoedd yng Nghymru a oedd yn dal yn nwylo’r Lancastriaid. O ganlyniad, enciliodd Jasper Tudor (Iarll Penfro) i Eryri, ynghyd â Henry Holland (Dug Exeter) a'u gwŷr. Gwnaethant un safiad olaf yma, ar Dwthill, ar 16 Hydref 1461 ond fe'u trechwyd yn fuan. Cyhuddwyd y Lancastriaid a ddaliwyd o gefnogi ymgais i ddinistrio'r brenin trwy drais bradwrys a chreulon.

Dihangodd Jasper Tudor a Henry Holland ar y môr. Yn ddiweddarach, cymerodd Jasper ei nai Harri Tudur gydag ef i alltudiaeth. Dychwelodd Harri i Brydain yn 1485 i ddiorseddu Richard III ym Mrwydr Bosworth. Fel Harri VII, sefydlodd linach y Tuduriaid.

Wrth i Gaernarfon ehangu, adeiladwyd tai ar llethrau isaf Twthill ond parhaodd Pen Twtil (y rhan uchaf) i fod yn faes hamdden poblogaidd. Casglodd torfeydd yma yn 1910 i arsylwi ar seren gynffon Halley yn awyr y nos.

Roedd rhai ymwelwyr yn defnyddio ysbienddrychau deulygadol (sbectol opera) i weld y golygfeydd, ac yn 1905 cwynodd digrifwr dienw lleol yn y North Wales Express fod haerllugrwydd y "sbectol opera ar Ben Twthill" yn gallu difetha taith gwch dymunol "gyda merch neis" ar y Fenai!

Cwynodd preswylydd dienw arall yn 1895 fod pobl a oedd yn rhy ddiog i olchi a mynd i addoli yn ymgasglu yma ar ddydd Sul ac yn sgwrsio mewn iaith budr. Yn 1904 cytunodd yr heddlu i fonitro Twthill oherwydd roedd "gemau" yn cael eu chwarae yma ar y Sabath. Cyn bo hir, cafodd 13 o bobl ifanc eu dirwyo am chwarae cardiau am arian yma ar ddydd Sul.

Cod post: LL55 1PF    Map

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, am y gwybodaeth am enw’r lle 

Mae copïau o’r hen lun a delweddau eraill ar gael gan CBHC. Cyswllt: nmr.wales@rcahmw.gov.uk