Cartref arwr rhyfel, 4 Stryd Newydd, Talgarth

PWMP logoCartref arwr rhyfel, 4 Stryd Newydd, Talgarth

Bu hwn unwaith yn gartref i Owen Samuel Day a dderbyniodd fedal am ddewrder cyn ei farwolaeth yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae’r tŷ yn eiddo preifat – cofiwch barchu preifatrwydd y deiliaid.

Ganed Owen ym 1882 yn Newton Abbott, Dyfnaint, i Henry a Henrietta Day. Ar ddechrau’r 20fed ganrif, roedd yn gwasanaethu gyda Chatrawd Swydd Gaer yn Rhyfel De Affrica ac fe’i clwyfwyd yn ei fraich.

Priododd ag Edith Palmer yng Ngwlad yr Haf ym 1911. Ym mis Awst 1914 daeth yn bostmon yn Nhalgarth. Bu’r pâr yn byw yma gyda'u tri phlentyn ifanc.

Digon byrhoedlog oedd gyrfa Owen yn y gwasanaeth post oherwydd iddo ddychwelyd i’w gatrawd yn fuan ar ôl i’r Rhyfel Byd Cyntaf gychwyn. Gwasanaethodd fel sarjant gan dderbyn y Fedal Filwrol am ei ddewrder wrth gario cyd-filwr oedd wedi’i glwyfo ar Ffrynt y Gorllewin. Fe’i hanafwyd yntau’n wael a’i yrru adre i ymadfer.

Dychwelodd i Ffrainc ar ddechrau 1917. Ar 9 Medi 1917 roedd ar ddyletswydd mewn safle bomio yn ardal y Somme yn Ffrainc, pan gafodd ei daro gan siel. Bu farw’n syth yn 43 oed. Ni chafwyd hyd i’w gorff erioed. Fe’i coffeir ar Gofeb Thiepval.

Ym 1919, priododd Edith ag un o’i chymdogion, y gwas fferm Arthur Williams o 6 Stryd Newydd. Buont yn byw yma gyda’i gilydd yn 4 Stryd Newydd.

Bu un o’u cymdogion, Reginald Pritchard, hefyd yn brwydro yn y rhyfel. Gwasanaethodd ar HMS Andes. Roedd ei frwydr gyntaf ar y môr, ym mis Chwefror 1916, yn erbyn y Greif, llong ysbeilio Almaenig dan rith llong nwyddau o Norwy. Suddodd yr ysbeiliwr HMS Alcantara cyn i HMS Andes ddechrau tanio arno gan lwyddo i’w suddo yn y pen draw. Yna cododd HMS Andes 170 o garcharorion rhyfel gan fynd â nhw i Lerpwl. Roedd perthnasau Reginald yn byw yn Hope Cottage, Stryd Newydd.

Gyda diolch i Virginia Brown o Gymdeithas Hanesyddol Talgarth a’r Cylch

Cod post: LD3 0AH    Map

Talgarth war memorial  Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button