Cyn dy tollau Conwy

Cyn dŷ tollau, cei Conwy

Mae’r adeilad hwn yn nythu at hen fur y dref. Ceir golygfa da dros harbwr Conwy o’r ffenestr bae (a ychwanegwyd rhywbryd rhwng 1865 a 1906). Mae cyfeirlyfrau o 1874, 1875 ac 1878 i gyd yn cyfeirio ato fel “antique building”, sy’n awgrymu efallai fod yr adeilad wedi’i godi cyn y ganrif honno.

Old photo showing Conwy Customs House in centre c.1885Fe welwch yr adeilad yng nghanol yr hen lun, a ddangosir yma trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Tynnwyd y llun gan John Thomas c.1885.

Tŷ Tollau Conwy oedd yr adeilad yn y 19eg ganrif. Roedd porthladd Conwy wedi bod yn brysur ers canrifoedd, yn mewnforio pren a defnyddiau eraill ac yn allforio halen a llechi. Gwyliai swyddogion tollau efo llygaid barcud i sicrhau fod y tollau cywir wedi’u talu ar bob mewnforyn.

Gyda dyfodiad rheilffyrdd a thyfiant porthladdoedd mawr, daeth pysgota i ddominyddio’r gweithgareddau ar gei Conwy, ac nid oedd angen swyddogion tollau bellach. Mae cyn-ddefnydd yr adeilad hwn yn dal i’w adlewyrchu yn enw’r teras o dai ychydig i’r de.

Yn yr 20ed ganrif cynnar, lleolwyd Cyfnewidfa Lafur yma. O 1948 i 1954, ac eto ym 1963 a 1964, roedd Grŵp Sgowtio Cyntaf Conwy yn cyfarfod yn yr adeilad, ar y llawr gwaelod.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, death yr adeilad yn gartref i harbwrfeistr Conwy a’i staff. Canolbwynt eu gwaith ydi’r gweithgareddau hamdden ar y dyfroedd lleol, sy’n cynnwys dau hafan (marina) a nifer o angorfeydd eraill ar gyfer cychod preifat.

Cod post: LL32 8BB    Map