Dale Street neu Cilbedlam
Dale Street neu Cilbedlam, Porthaethwy
Os ydych chi ym mhen dwyreiniol y stryd, edrychwch i fyny i weld yr hen arwydd “Dale Street” ar y bricwaith. Mae’r enw’n cyfeirio at y cwm bychan, neu’r glyn, sy’n estyn o ben uchaf Hill Street neu Lôn Pen Nebo (y tu ôl i chi) hyd at Dale Street. Mae Dale Park yn dal yn enw ar un o dai Dale Street.
Enw Cymraeg y stryd yw Cilbedlam.
Ym 1875 tynnwyd sylw yr hanesydd W Wynn Williams at wrthrychau hynafol a ddarganfuwyd yn ystod gwaith chwarela ger cyffordd y ffyrdd i Fiwmares a Chaergybi. Dywedwyd wrtho mai Cil Bedlem (sic) oedd enw bwthyn a fu yn sefyll gynt yn y cyffiniau. Roedd yna hefyd chwedl leol am ogof o'r un enw, a ddefnyddid gan sipsiwn, a oedd yn ymestyn o dan y ffordd ac a ffurfiwyd o bosibl gan fwyngloddio copr hynafol.
Yn gynnar yn y 1970au, penododd cyngor Porthaethwy banel i bennu enwau Cymraeg i’w rhoi ar y strydoedd. Y corff hwnnw a ddewisodd yr enw Cilbedlam ar gyfer Dale Street. Efallai bod yr hen enw wedi apelio at aelodau'r panel oherwydd bod ysgol ger y gyffordd â Wood Street ac roedd yr ardal yn aml yn annibendod o gerbydau a cherddwyr.
Ar un ochr o’r stryd saif rhes o siopau ffug: set y gyfres Rownd a Rownd ar S4C.
Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a'r Athro David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i Terence PT Williams
Côd post: LL55 5AL Map