Footnotes Cymraeg The Animal Wall, Bute Park

Bute Park Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button

Bute Park logo

Y Mur Anifeiliaid

Mae amrywiaeth o anifeiliaid carreg yn cadw golwg arnoch chi rhwng y castell a Phorth y Gorllewin. Dyma ffin ddeheuol Parc Bute.

Cerfiwyd yr anifeiliaid sydd agosaf at y castell gan Thomas Nicholas, o Lambeth, Llundain, ar ddechrau’r 1890au. Cerfiwyd yr anifeiliaid sydd agosaf at Borth y Gorllewin ar ddechrau’r 1920au gan Alexander Carrick o Gaeredin. Mae gan y cerflunwyr arddulliau gwahanol. Allwch chi weld ble mae’r anifeiliaid gwreiddiol yn gorffen a’r rhai newydd yn dechrau? Mae’r ateb yn y troednodiadau.

Wrth i chi gerdded ar hyd y wal, ceisiwch ddyfalu beth yw pob anifail. Mae’r atebion cywir yn y troednodiadau.

Dyluniwyd y Wal Anifeiliaid wreiddiol gan William Burges, pensaer ystâd Bute. William Frame, un o benseiri eraill teulu’r Bute, oruchwyliodd y gwaith o orffen y wal ym 1892. Peintiwyd yr anifeiliaid mewn lliwiau disglair, a bylodd ar fyr o dro.

Yn wreiddiol, roedd Wal yr Anifeiliaid o flaen tŵr cloc y castell a gardd y dyfrffos, i’r gorllewin o fynedfa’r castell. Cafodd ei hadleoli ym 1922-23 er mwyn ehangu Heol y Dug. Fel rhan o’r gwaith hwn, estynnwyd y wal ymhellach i’r gorllewin a cherfiwyd yr anifeiliaid ychwanegol.

Yn y 1930au, cyhoeddodd y South Wales Echo a’r Evening Express gyfres o straeon am antics dychmygol anifeiliaid y wal. Cafodd y straeon eu hysgrifennu gan Dorothy Howard Rowlands, ac fe’u cyhoeddwyd fel casgliad mewn llyfryn yn ddiweddarach. Cafwyd ymateb chwyrn gan y cyhoedd yn y 1970au pan awgrymwyd y gallai’r wal gael ei dymchwel i ehangu’r ffordd unwaith eto.

Yn 2010, adferodd Cyngor Sir Caerdydd Wal yr Anifeiliaid gydag Arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Daethpwyd o hyd i garreg newydd a oedd yn gydnaws a’r garreg wreiddiol, a cherfiwyd darnau i’w gosod yn lle’r rhai a gollwyd dros amser. Cafodd y bwytäwr morgrug ei drwyn yn ôl, a oedd wedi torri oddi arno sawl gwaith. Cafodd y wal gyfan ei glanhau a’i hail-bwyntio mewn mortar calchfaen traddodiadol, yn lle’r gwaith atgyweirio hyll a wnaed ynghynt. Dengys y llun y cerfiwr Tom Clark, a wnaeth y darnau newydd i’r cerfluniau drwy weithio o hen ffotograffau.

Gyda llaw, mae rhai trigolion lleol yn galw’r bwytäwr morgrug yn “Ardfarc” - sy’n swnio’n naturiol iawn yn acen Caerdydd!

Ble mae'r HiPoint hwn?before and after photo of repair to anteater

TROEDNODIADAU: Enwch yr anifeiliaid!

Wnaethoch chi ddyfalu pa anifeiliaid sydd wedi’u cerfio ar y wal, a ble mae’r rhai newydd o’r 1920au yn dechrau?

Gan ddechrau o ben y castell, yr anifeiliaid yw:

Dau lew (“Romulus” a “Remus”)

Lyncs (“Larry”)

Llewes

Arth

Morlo (“William neu Billy”)

Dau epa (“Martha” yw’r fam ac “Oscar” yw’r babi)

Udfil

Cerfiwyd y chwech anifail diwethaf yn y 1920au, mewn ffordd fwy onglog. Roedd hyn yn arddull y cyfnod yn hytrach na chadw at ymdrechion Oes Fictoria i fod mor realistig â phosibl. Nid oedd bwriad eu peintio, ac nid oes ganddynt lygaid gwydr fel yr anifeiliaid gwreiddiol. Y rhain yw:

Fwltur (“Odo”)

Afanc

Llewpart

Dau racŵn

Bwytäwr morgrug (ar y dde, cyn ei adfer ac ar ôl ei adfer yn 2010)

Pelican (“Priscilla”)

I barhau â thaith Parc Bute, ewch ar hyd Heol y Castell oddi wrth y castell a throwch i’r dde i Barc Bute ym Mhorthdy’r Gorllewin Navigation next button