Cyn-fythynnod chwarel, Nant Gwrtheyrn

Cyn-fythynnod chwarel, Nant Gwrtheyrn

Dechreuodd chwarela cerrig sy’n debyg i wenithfaen yn Nant Gwrtheyrn o ddifrif yn 1861. Agorodd tair chwarel yn y degawd hwnnw, yn bennaf ar gyfer cyflenwi sets pafin ar gyfer  strydoedd dinasoedd a oedd yn tyfu’n gyflym, megis Lerpwl a Manceinion.

Codwyd a ddwy res o fythynnod yma ym 1878 fel llety ar gyfer y chwarelwyr. Enwyd y rhes sy'n wynebu'r môr yn Trem y Môr, a’r llal yn Trem y Mynydd. Erbyn 1886, roedd y tai yma yn galon i bentref o 200 o drigolion.

Daeth chwarela i ben yma yn 1939. Gadawodd y preswylydd diwethaf 20 mlynedd yn ddiweddarach. Aeth y bythynnod yn adfael, yn enwedig wedi i gomiwn hipi ymgartrefu yma yn y 1970au, gan dynnu pren o adeiladau’r hen bentref ar gyfer coed tân. Prynwyd y safle, ar ôl ymdrech fawr i godi arian, oddiwrth AMEY Roadstone Corporation ym 1978 ar gyfer creu'r Ganolfan Iaith Genedlaethol newydd. Syniad Dr Carl Clowes oedd y defnydd newydd yma i’r pentref. Roedd o wedi symud i'r ardal yn 1970 i weithio fel meddyg teulu. Gwelodd angen dybryd i greu gwaith i’r bobl leol.

Adnewyddwyd y bythynnod, a croesawodd y ganolfan ei dysgwyr cyntaf ym 1982. Ers hynny, mae mwy na 25,000 o bobl wedi astudio'r Gymraeg yma, gan gynnwys yr actores Ruth Madoc a’r personoliaeth cyfryngau Janet Street-Porter. O 2007 i 2011, uwchraddiwyd cyfleusteray’r pentref ar gost o £5m, gan gynnwys gwella'r ffordd serth i lawr i’r dyffryn. Ariannwyd hyn gan nifer o gyrff gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd a Chronfa Dreftadaeth y Loteri.

Côd Post: LL53 6NL    Map

Gwefan Nant Gwrtheyrn

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
Pilgrim's Way Tour Label Navigation previous buttonNavigation next button