Pont y Foryd, Y Rhyl

Pont y Foryd, Y Rhyl

rhyl_foryd_bridgeAgorwyd Pont y Foryd, sy’n croesi'r afon Clwyd yn y Rhyl, ym 1932. Mae'r hytrawstiau llinyn bwa yn darparu'r nerth anghenrheidiol i’r dec groesi'r afon mewn dau ran, sy’n gorffwys ar bier canolog. Cafodd y bont ei chynllunio gan RG Whitley, syrfëwr Sir y Fflint. Ymhlith ei weithiau eraill y mae’r bont godi yn Queensferry.

Crewyd y darnau metel ar gyfer Pont y Foryd (a welir yn 2010 yn y llun ar y dde) gan gwmni Long Dorman o Middlesbrough. Roedd hwn ymhlith sawl prosiect priffyrdd yng Ngogledd Cymru yn y 1930au a oedd yn helpu cynnal cyflogaeth yn ystod y dirywiad economaidd.

Cymerodd y bont drosodd o bont doll a adeiladwyd ym 1861 ar gost o £10,000. Gallai’r bont hon agor i alluogi cychod a llongau i deithio i fyny'r afon tuag at Rhuddlan. Elowdd ei pherchnogion yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan yr oedd gwersyll fyddin yn Cinmel, i'r gorllewin o'r afon. Daeth hyn a traffig ychwanegol dros y bont. Dirywiodd y bont wrth i draffig tyfu, o ran maint a niferoedd y cerbydau. Yn y pen draw gwaharddwyd bysiau, a bu'n rhaid i deithwyr adael y bws ar un ochr a cherdded dros y bont i ymuno â bws ar yr ochr arall.

Heddiw adnadbyddir Pont y Foryd fel y Bont Las, er nad oedd ei hytrawstiau yn las yn wreiddiol. Mae gwibffordd yr A55 wedi rhyddhau’r bont o draffig trwodd hir-bell, ond mae'r bont yn parhau i fod yn brif wythïen brysur rhwng y Rhyl a'r aneddiadau preswyl a meysydd carafanau i'r gorllewin.

Côd post: LL18 5BA    Map

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button