Golate, Caerdydd

Golate

Mae hen ffurfiau o’r enw yn cynnwys Gollgate 1440, Gallgate erbyn 1748, Gollyate 1750, Gullate 1779. Daw'r elfen gyntaf yn yr enw o'r ffurf Saesneg Canol goule, gole (ffos, ffrwd, sianel). Dyna sydd mewn enwau fel Goole, Swydd Efrog, a Gull, Huntingdon.

Gall fod cysylltiad ieithegol â'r Hen Ffrangeg goule, gyda'r un ystyr, a'r ffurf anwes goulet (cymharer â’r Saesneg gullet). 

Yr ail elfen yw gate (Hen Saesneg: geat) sy'n wreiddiol yn golygu bwlch neu doriad – yn hytrach na'r hyn sy'n ei lenwi – mewn mur, ffens, banc ac ati. Ar lafar fe ymddengys fel yat(t), iet(t) mewn Saesneg Canol (fel yn Symond’s Yat). Gwelir hyn yn y ffurfiau cynnar o Golate, gyda'r “g” yn troi’n “y” ac yna’n cael ei cholli i roi Golate.

Felly, ffos neu ffrwd a geid yma i ddechrau, yn torri ei ffordd i lawr i afon Taf. Dichon ei bod mewn amser, ac mewn tref fedifal, yn mynd yn llawn budreddi ond hefyd (fel llawer ffos debyg yn yr Oesau Canol) yn datblygu yn llwybr gwlyb a llithrig. Frog Lane oedd yr enw a roes John Speed iddi ar ei fap yn1610, ac Y Gwter ydi’r enw Cymraeg swyddogol heddiw. Er hyn, roedd yn ffordd gyfleus i gyrraedd yr hen lanfa i longau gerllaw.

Nid hyd y rhan olaf o'r 19eg ganrif y gwelir cofnodion cyngor Caerdydd yn rhoi'r enw Golate Street iddi yn ei gofnodion gan ddilyn erbyn 1874 gyda bwriad i'w phalmantu, a hynny'n digwydd erbyn  1887.  

Gyda diolch i’r Athro Gwynedd Pierce, o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, ac i Remploy am arddangos y côdau QR

Ble mae’r HiPoint hwn?

Côd post: CF10 1EU