Cymraeg Tremeirchion viewpoint

Golygfan Tremeirchion

O Lwybr Clawdd Offa a llywbr Taith Pererin Gogledd Cymru uwchlaw Tremeirchion, gallwch fwynhau golygfeydd pell dros Ddyffryn Clwyd. Ar ddiwrnod clir, gallwch weld mynyddoedd gogledd Eryri yn y pellter. Dylai'r lluniau isod eich helpu i adnabod tirnodau.

I lawr y llethr i'r gorllewin o'r fan hon saif Canolfan Ysbrydolrwydd Jeswit Sant Beuno. Bu’r bardd Fictoraidd Gerard Manley Hopkins yn byw yno 1874-1877 tra'n astudio i fod yn offeiriad. Yno y cynhyrchodd rhai o'i weithiau barddonol gorau. Dysgodd ddigon o Gymraeg i ddarllen barddoniaeth yn yr iaith a hyd yn oed cyfansoddi cerdd Gymraeg. Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn cynghanedd, ac addasodd yr egwyddorion ar gyfer ei farddoniaeth Saesneg.

View towards Snowdonia

Ymhlith y tirnodau yn Nyffryn Clwyd y gallwch eu gweld o'r fan yma y mae Eglwys Gadeiriol Llanelwy a thwr tal yr Eglwys Farmor ym Modelwyddan. Y pentir yn y pellter ydi Trwyn y Fuwch, i’r dwyrain o Landudno.

View over Vale of Clwyd



Ble mae'r HiPoint hwn?

Offas Dyke Tour Label Navigation north to south buttonNavigation south to north button