Gorsaf bad achub Conwy

Gorsaf bad achub Conwy

conwy_lifeboat_arthur_bateAgorwyd yr orsaf hon, ar gei Conwy, gan y Royal National Lifeboat Institution ym Mehefin 1966, gan adlewyrchu’r cynydd yn y niferoedd o gychod pleser yn harbwr Conwy. Pan fydd argyfwng ar y dwr, tynnir y bad achub allan o’r adeilad ac i lawr y ramp gyferbyn.

Ym 1970 cyflwynodd yr RNLI ei anrhydedd dewrder, a enwir Thanks of the Institution Inscribed on Vellum, i dri o aelodau’r criw yng Ngonwy – sef Brian Jones, Ronald Craven a Trevor Jones (gallwch weld llun o Trevor a gwrando arno ar y dudalen hon). Roedd hyn yn cydnabod eu dewrder pan yn achub dau ddyn o fad caban o’r enw Fulmar, a oedd wedi torri lawr mewn storom ger y Gogarth. Yn ogystal â’r gwyntoedd cryfion a’r tonnau uchel, roedd dwr bas yn yr ardal hon yn ychwanegu at y peryglon. Hwyliodd y criw y bad achub heibio’r bad caban ddwywaith, i alluogi i’r dynion i neidio i ddiogelwch y bad achub.

Mae’r llun, trwy garedigrwydd yr RNLI, yn dangos y bad achub Arthur Bate a oedd wedi’i leoli yma rhwng 1995 a 2004. Ariannodd etifeddiaeth Arthur Bate y cwch, a pherfformiodd ei chwaer Joan y seremoni enwi. Enwyd y cwch newydd hefyd yn Arthur Bate ac arhosodd yng Nghonwy tan 2014.

Darperir gwasanaeth bad achub y DU nid gan y llywodraeth ond gan elusen yr RNLI. Ers ei sefydli ym 1824, amcangyfrifir i’r RNLI achub tua 140,000 o fywydau. Mae’n cyflogi rhai aelodau criw on mae’r mwyafrif, rhyw 40,000, yn wirfoddolwyr sy’n gadael eu gwaith, teuluoedd neu gwelyau i ateb galwadau brys.

Côd post: LL32 8BB    Map

Gwefan yr RNLI

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button