Gorsefield, by HL North, Cymraeg

Gorsefield, glan y môr, Llanfairfechan

Mae Gorsefield yn un o bâr o dai a gynlluniwyd gan y pensaer Celfyddydau a Chrefft (Arts & Crafts) Herbert Luck North. Adeiladwyd y pâr tua 1906 ar gyfer asiant tai lleol, Arthur R Jones. Mae tŷ arall o waith HL North, sef Whitefriars, a adeiladwyd yn 1933, i’w weld ychydig ymhellach i’r gorllewin ar hyd y lan.

Yn anarferol, mae’r pâr o dai a’i gymdogion yn gwynebu’r llwybr ar hyd glan y môr, yn hytrach na’r ffordd lleol, sydd ym mhen pellaf y gerddi cefn.

Mae'r agwedd allanol Gorsefield yn cynnwys nifer o fanylion nodweddiadol o waith HL North: talcenni serth, ffenstri cwarel-bach, a waliau garw. Cynlluniodd HL North y tu mewn fel bod y llawr waelod yn gweithredu naill ai fel un ystafell hir neu’n cael ei rannu gan drysau sy’n plygu yn darparu ystafell ar bob ochr i’r neuadd ganolog. Defynddiodd HL North y trefniant dyfeisgar hwn mewn nifer o’i dai, yn achub y blaen ar y syniad o’r swyddfa cynllun agored.

Am y pensaer:

Gweithiodd Herbert Luck North (1871-1941) i’r pensaer eglwys a JD Sedding ac i Syr Edwin Lutyens cyn iddo ddychwelyd tua 1901 i Lanfairfechan, cartref ei deulu ers 1881. Rhannodd ei amser rhwng gwaith tai ac eglwysig, ddim i gyd yng Ngogledd Cymru. Ysgrifennodd ddau lyfr am yr hen eglwysi a bythynnod Eryri. Yn Llanfairfechan y ceir y casgliad mwyaf o adeiladau HL North, yn cynnwys The Close, stad o dai a ysbrydolwyd gan faestrefi gerddi (garden suburbs) ac a adeiladwyd ar dir ei deulu rhwng 1923 a 1941.

Mae adeiladau HL North yn enghreifftio’r gwaith a wnaed gan benseiri taleithiol yn yr 20fed ganrif cynnar: cymedrol, efo dim ond ychydig o gydnabyddiaeth and yn rhagorol yn ei ffordd dawel ei hun.

Gyda diolch i Adam Voelcker, awdur
‘Herbert Luck North: Arts & Crafts Architecture for Wales’

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL33 0BP

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button