Gwarchodfa natur yr RSPB, Cyff Llandudno

Gwarchodfa natur yr RSPB, Cyffordd Llandudno

Roedd yr ardal sydd bellach yn gartref i’r warchodfa hon gynt yn fwd ar ochr allanol troad yn afon Conwy. Roedd y safle yn le bwydo gwych i’r adar efo pob trai.

Gollyngwyd pridd yn y safle pan adeiladwyd twnel yr A55. Yn wreiddiol y bwriad ydoedd i blanu glaswellt dros y tir newydd yma, ond yn hytrach penderfynwyd creu lagwnau i gydadfer am golli’r cynefin naturiol. Llywiwyd y brosiect gan yr RSPB, sy’n cynnal yr ardal fel gwarchodfa natur.

Cynlluniwud y llwybrau o gwpas y warchodfa gyda defnyddwyr cadeiriau olwyn yn y meddwl. Gall aelodau’r cyhoedd dalu i ymweld â’r warchodfa (di-dal i aelodau’r RSPB). Ceir yno guddfanau i wylio’r bywyd gwyllt. Mae planhigion y warchodfa hefyd yn atyniad, yn tyfu mewn ardaloedd o wely cors, glaswelltir a morfa heli sydd bellach yn sefydliedig.

Mae llawer math o aderyn i’w weld, rhai ohonynt yn dymhorol. Ymhlith yr uchafbwyntau y mae’r rhostog gynffonddu (black-tailed godwit), y cornchwiglen (lapwing), telor yr hesg (sedge warbler), rhegen y dwr (water rail) a hwyaden yr eithin (shelduck). Ni ymddangosodd y crëyr bach ym Mhrydain mewn niferoedd sylweddol tan 1988, ond fe’i gwelir yn aml yn RSPB Conwy heddiw.

Yn 2008 gadawodd Alan Davies ei swydd fel rheolwr safle y warchodfa er mwyn teithio’r byd efo’i bartner, Ruth Miller, gyda’r bwriad o weld cymaint o fathau o adar mewn blwyddyn a phosib. Fe dorron nhw record y byd, gan weld 4,341 rhywogaeth mewn 27 o wledydd.

Where is this HiPoint?

RSPB Conwy website

Postcode: LL31 9XZ