Man geni’r emynydd Isalaw

Man geni’r emynydd Isalaw, Ffordd y Traeth, Bangor

Ganed yr emynydd toreithiog John Richards, neu Isalaw, yn y tŷ hwn ym 1843. Yn ddyn ifanc fe gychwynodd, efo’i gyfaill Thomas Williams, y dosbarth cerddoriaeth cyntaf ym Mangor i ddefnyddio nodiant sol-ffa. Roedd ei emynau’n boblogaidd gyda chynulleidfaoedd o wahanol enwadau. Mae rhai yn dal i gael eu perfformio mewn gwasanaethau a chyngherddau.

Efallai mai Sanctus ydi emyn mwyaf adnabyddus Isalaw heddiw. I glywed pwt o Sanctus, trwy garedigrwydd Sain (Recordiau) Cyf., pwyswch y triongl bach:Or, download mp3 (551KB)

Ystyr "Isalaw" ydi’r llais bas, neu’r llinell felodig sy’n rhedeg yn is na’r prif alaw. Bu farw ym mis Medi 1901 a chladdwyd ef yn mynwent Glanadda, Bangor. Enwir stryd ym Mangor, sef Maes Isalaw, er ei anrhydedd.

Gosodwyd y plac coffa uwchben drws y tŷ ym 1943. Adeilad Georgaidd hwyr ydi’r tŷ, a elwir y King’s Head, ac mae’n gwynebu dwy stryd.

Côd post: LL57 1DG    Map

Gyda diolch i Matt Tapping a Sarah Andrews, o Gymdeithas Ddinesig Bangor, ac i Rhidian Griffiths a Sain (Recordiau) Cyf.

Gwefan Sain

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button