Little Orme Cymraeg

Trwyn y Fuwch

Mae Trwyn y Fuwch, neu Rhiwledyn, yn gwahanu Llandudno o Fae Penrhyn. Roedd chwarel yn gweithredu ar Drwyn y Fuwch o’r cyfnod Fictoraidd hwyr. Dadorchuddiwyd twll dwfn naturiol yn 1891, lle canfuwyd olion ysgerbydol o wraig yn dyddio o tua 5, 570 o flynyddoedd yn ôl. Darganfuwyd pethau hefyd o Oes yr Efydd, gan gynnwys gwaywffon efydd ac esgyrn anifeiliaid sydd bellach wedi diflannu ym Mhrydain fel y rhinoseros a’r arth.

Uwchben clogwyni Trwyn y Fuwch y mae ogof lle yr argraffwyd y llyfr cyntaf yng Nghymru, yn ystod erledigaeth Elisabeth o Gatholigion ym Mhrydain. Yn 1585 cynhyrchodd Robert Pugh, gyda chymorth grŵp o offeiriaid, gyfrol fach o’r enw Y Drych Cristionogawl. Mae’r ogof yn eithaf bach, gyda mynedfa isel iawn. Yn 1587 baglodd dyn lleol ar draws y wasg argraffu yn yr ogof a rhybuddiodd y perchennog tir lleol, Syr Thomas Mostyn, yn Neuadd Gloddaeth. Trefnodd fintai o 40 o ddynion i chwilio am yr ogof. Penderfynodd y dynion ei bod yn rhy beryglus i fynd i mewn drwy’r twll 60cm o uchder. Ar ôl gwarchod y fynedfa drwy’r nos, darganfuon nhw yn y bore fod y bobl a oedd yn gyfrifol am y wasg wedi diflannu. Wedyn darganfyddon fod simnai y tu allan i’r brif siambr, a roddodd  allanfa i’r offeiriaid i dianc. Bu llawer o wahanol storïau am yr ogof, ond yn 1962 arwchiliodd archeolegwyr yr ogof a darganfod tystiolaeth sy’n debyg i ddilysu’r stori.

Gweiler llethr hir syth yn glir ar ochr ddwyreiniol Trwyn y Fuwch. Dyma lle’r oedd wagenni chwarel yn disgyn gyda cherrig. Ar frig y llethr gwelir waliau’r tŷ weindio ac olion yr offer. Dechreuodd y chawrela ym 1889 a gorffen ym 1936. Roedd gan Trwyn y Fuwch bier ei hun ar gyfer allforio cerrig. Defynyddiwyd wyth locomotif yn y chwarel dros y blynyddoedd. Hefyd, roedd injan ager yn gyrru offer i falu’r cerrig. Roedd chwarela’n gyflogwr mawr, gyda’r rhan fwyaf o’r gweithwyr yn byw yn Penrhynside gerllaw. Roedd ysgol saethu yn y chwarel segur yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
 
Mae clogwyni Trwyn y Fuwch, boed yn waith dynol neu’n naturiol, yn darparu mannau nythu delfrydol ar gyfer adar, gan gynnwys adar drycin y graig, y gigfran a thylluanod bach (little owls). Mae rhan de-orllewinol Trwyn y Fuwch yn warchodfa natur, yn bennaf o laswelltir calchfaen. Rhoddwyd y tir hwn i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn ewyllys yn 1994.

Gyda diolch i John Lawson-Reay, o Gymdeithas Hanes Llandudno a Bae Colwyn

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

HiPoints CYNHANESYDDOL eraill yn yr ardal hon:
Gweithfeydd Copr Y Gogarth
Coed y Gopa, Abergele

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button