Llun gan JC Ibbetson 1794

Llun gan JC Ibbetson, 1794

Dyma ddehongliad Julius Caesar Ibbetson (1759-1817) o’r golygfa tuag at Gastell Conwy o’r gogledd ym 1794.

Mae’r paentibbetson_moonlight_paintingiad, a ddangosir yma drwy ganiatad Amgeuddfa Victoria & Albert, yn cofnodi gwedd y foryd cyn i Thomas Telford adeiladu’r Cob a’r Bont Crog ym 1826. Roedd Yr Ynys, a welir yn glir yn y paentiad, yn hanfodol i Telford gan iddi ddarparu sail gadarn ar gyfer ochr ddwyreiniol y bont.

Yn y blaendir, gwelir un o’r cychod fferi a drosglwyddai pobl a nwyddau o un lan i’r llall cyn 1826.

Mae’n debyg y newidiodd Ibbetson rai agweddau o’r olygfa ar gyfer cyfansoddiad y darlun. Mae’r banc yn y blaendir yn edrych fel dyfais i gymryd lle ysbardun wal y dref neu’r llethr lle safai’r cei canoloesol ar un adeg. Ar y llaw arall, gall y treath tawel gyda’r cwch unig fod yn gofnod cywir o’r hyn a welodd Ibbetson. Yr adeg hynny, roedd y brief harbwr i’r de o’r castell, yn y llecyn llochesol wrth aber yr afon Gyffin. Symudwyd yr harbwr i’r gogledd o’r castell wedi adeiladu’r cei cerrig ym 1833.

Efallai fod y cwch hwylio yn y pellter yn docio wrth porth yr afon, a roddai mynediad uniongyrchol i’r castell yn wreiddiol. Chwalwyd porth yr afon gyda’r gwaith i godi’r Bont Crog.

Gyda diolch i Cathryn Williams a Ray Castle

Cod post: LL32 8BE    Map

Llun © Victoria & Albert Museum, London.

Darllenwch mwy am y paentiad hwn ar wefan Amgueddfa V&A

Wales coast path tour button Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button