Llyn Ogwen: Syllfan ger yr A5

Llyn Ogwen: Syllfan ger yr A5

llyn_ogwenYmddengys fel petai’r A5 o waith Telford yn cael ei gwasgu rhwng glan ddeheuol Llyn Ogwen ac wyneb gogleddol unionserth Tryfan.

Cronfa helaeth o ddŵr yw ‘llyn’. Ond Ogwen, yn ogystal, yw’r enw ar yr afon sy’n llifo i’r llyn ac o’r llyn. Dyna hefyd yr enw ar y dyffryn y llifa’r afon ar hyd-ddi i gyfeiriad y gogledd, cyn iddi gyrraedd y Fenai. Mae’n debygol mai ‘Og’ yw’r elfen gyntaf a hwnnw’n golygu cyflym neu fywiog. Tardda’r ail elfen o ‘banw’, enw ar afonydd mewn sawl rhan o Gymru gan gynnwys Aman (Sir Gaerfyrddin) a Banw (Powys). Yn y 15fed ganrif ffurfiau megis ‘ogwanw’ oedd yn dynodi’r enw ac ‘Ogweyne’ a geir c.1537.

Ail elfen Tryfan yw ‘ban’ sef copa. Mae’n bosibl mai ansoddair yn golygu amlwg yw’r elfen ‘try-‘; rhoddai hynny’r ystyr ‘copa amlwg’. Posibilrwydd arall yw bod tair colofn ar y copa ar un adeg; dwy sydd yno erbyn hyn. Fe’i hadweinir fel Adda ac Efa. Gall ‘try-‘ ddynodi tri.

Mae traddodiad bod Bedwyr wedi dychwelyd cleddyf y Brenin Arthur, sef Caledfwlch, at Forwyn y Llyn, rhian Llyn Ogwen, ar farwolaeth y brenin a bod Bedwyr ei hun wedi’i gladdu ar Tryfan.

Gyda diolch i'r Athro Hywel Wyn Owen a David Thorne o Gymdeithas Enwau Lleoedd Cymru

Map

Telfords Irish Road Tour label Navigation go East buttonNavigation go West button