New York Cottages Cymraeg

Bythynnod New York, Ffordd Bangor, Penmaenmawr

Bythynnod New York oedd y tai cyntaf i gael eu hadeiladu yn yr ardal hon. Caeau agored yr oedd yr ardal ar y pryd. Cawsant eu hadeiladu yn 1849 ar gyfer gweithwyr yn chwarel Graig Lwyd, sydd yn uwch i fyny'r bryn y tu ôl i'r bythynnod. Tra fod y tai yn cael eu hadeiladu, roedd yna dipyn o gwymp yn y farchnad, a dynion yn colli gwaith. Yn ôl yr hanesydd lleol Dennis Roberts, dywedodd rhywun: “Ddaw neb i weithio yma. Maent wedi mynd i gyd i Efrog Newydd.” Ac felly rhoddwyd yr enw Bythynnod New York ar y tai newydd.

Yn yr 1850au, roedd Richard Owen yn byw yn rhif 4 gyda’i wraig ac wyth o blant - a dau letywr! Yr adeg honno fe fyddai dynion ifanc o Ynys Môn neu Ddyffryn Conwy yn gweithio ym Mhenmaenmawr ac yn aros gyda theuluoedd lleol o ddydd Sul i ddydd Sadwrn. Byddai'r teulu’n  cysgu i fyny'r grisiau, a’r lletywyr ar y llawr gwaelod ar fatres neu bync. Roedd y gwaith yn y chwarel yn galed. Gweithiai’r dynion o 6am tan 7pm. Doedd arnynt angen ddim llawer mwy yn eu cartrefi na rhywle i gysgu.

Ym mhen ddwyreiniol Bythynnod New York yr oedd gefail, lle y byddai gof yn creu pedolau a phethau eraill o haearn. Ar bwys talcen y bythynnod yr oedd siop byrbrydion wedi’i wneud o haearn rhychog. Siop Tommy Hughes oedd hon, ac yn ddiweddarach Siop Gwenda.

Gadawyd i’r bythynnod i ddirywio cyn iddynt gael eu prynu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, a’u hadferodd ar gost o bron i £ 400,000. Daeth peth o’r gyllideb gan yr Undeb Ewropeaidd. Ailagorwyd y bythynnod yn 2000 fel swyddfeydd ar gyfer busnesau lleol. Mae rhif 4 yn cael ei brydlesu gan Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr fel amgueddfa sy'n ymroddedig i hanes Penmaenmawr.

Gyda diolch i David Bathers o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr


Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL34 6NP