Old stable block Cymraeg

Yr hen stablau, Betws-y-Coed

Mae’r adeilad hon, ar ffurf cwadrangl, yn brawf o dwf cyflym twristiaeth ym Metws-y-Coed yn y 19eg ganrif gyda gwelliannau i’r ffyrdd a dyfodiad y rheilffordd yn 1868. Codwyd y stablau yma ar gyfer y ceffylau a'r offer y cadwodd y Royal Oak Hotel ar gyfer teithiau cerbyd. Roedd y rhain yn mynd a gwesteion i lecynnau hardd lleol, yn cynnwys teithiau weddol bell drwy’r mynyddau i Llanberis a Beddgelert. Cyflogai’r Royal Oak ei ddynion cerbyd ei hun ar gyfer y gweithgaredd. Parhaodd y teithiau cerbyd ar ôl i rheilffordd Dyffryn Conwy agor, am nad oedd unrhyw rheilffyrdd yn rhedeg o Fetws-y-Coed i fyny Dyffryn Llugwy.

Yn 1953 daeth y stablau’n gartref i orsaf dân gyntaf Betws-y-Coed. Roedd pwmp tendr ac ôl-gerbyd rîl yn cael eu cadw yma.

Heddiw mae Parc Cenedlaethol Eryri yn darparu canolfan gwybodaeth i ymwelwyr yn yr hen stablau, sydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd ar gyfer wardeiniaid y parc cenedlaethol. Mewn rhai o'r ystafelloedd, mae gweithwyr crefft yn dangos eu sgiliau ac yn arddangos a gwerthu eu gwaith.

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd Post: LL24 0AH