Oriel Plas Glyn y Weddw Cymraeg

Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog

Er i’r adeilad Gothig mawreddog hwn edrych fel tŷ, fe’i adeiladwyd ym 1857 fel cartref i gasgliadcelf Elizabeth, gweddw Syr Love Jones-Parry. Y teulu hwn oedd y prif dirfeddiannwyr ar Ben Llŷn.

Oriel gelf hynaf Cymru ydi Oriel Plas Glyn y Weddw. Ym 1896, prynodd yr entrepreneur Solomon Andrews o Gaerdydd yr adeilad a'i ddatblygu fel oriel gelf gyhoeddus. Ychwanegodd ystafell de a neuadd ddawns, a datblygodd y gerddi. I wella hygyrchedd, adeiladodd dramffordd at yr oriel o orllewin Pwllheli.

Mae casgliad yr oriel yn cynnwys porslen Abertawe a Nantgarw, o ddechrau'r 19eg ganrif, ar fenthyciad tymor hir gan y teulu Andrews. Mae'r oriel yn cynnal arddangosfeydd o waith gan artistiaid o Gymru a thu hwnt, yn ogystal â chyngherddau a digwyddiadau eraill.

Hefyd ar fenthyg i'r oriel y mae dau faen gydag arysgrifen Lladin. Cafodd y ddau eu darganfod o fwen tua 6km i’r oriel yn y 1830au. Maent yn coffáu dau sant Cymreig a oedd yn byw yn y 5ed neu'r 6ed ganrif. Cawsant eu gadael yn eu lle tan y 1890au, pan gawsant eu hanfon at amgueddfa’r Ashmolean yn Rhydychen. Dychwelodd y meini i Ben Llŷn ganrif yn ddiweddarach, yn dilyn ymgyrch lleol dros eu dychewlyd.

View Location Map

Côd post: LL53 7TT

Gwefan Oriel Plas Glyn y Weddw - yn cynnwys manylion hanesyddol

Wales Coastal Path Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button