Pant yr Afon shops Cymraeg

Siopau Pant yr Afon

Rhoddwyd yr enw yma ar yr ardal siopa canolig oherwydd bod llawer o nentydd yn rhedeg o dan y stryd a’r siopau i lawr at y môr.

Datblygodd yr ardal yn 1870  gyda rhai o’r siopau yn cael eu hychwanegu at flaenau’r tai gwreiddiol er mwyn cymryd mantais o’r ymwelwyr oedd yn dod ar y tren neu mewn cerbydau ffordd.  Roedd siopau Cambrian Buildings o dan arcêd Fictorianaidd  gyda tho gwydr.

Un o’r datblygwyr cyntaf oedd Thomas Patrick o Bedford. Fe ddaeth yn ffrindiau gyda Gladstone, a phan ail-ddatblygwyd yr adeilad fe ychwanegodd neuadd fach a enwyd Gladstone Hall ar ôl yr ymwelydd pwysig.

Gyda chymorth y Townscape Heritage Fund, fe ail-adeiladwyd yr arcêd Fictorianaidd ac fe orffenwyd y gwaith yn 2009.

Cynhelir Ffair Nwyddau o dan yr arcêd ar yr ail ddydd Sadwrn bob mis trwy’r flwyddyn. Mae hefyd yn le hyfryd i gael paned a sgwrs heb fod ar y stryd!

Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts, o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr

Ymhle mae'r HiPoint hwn?

Côd post: LL34 6AE

William Gladstone Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button