Penmaen Head Cymraeg

Penrhyn Penmaen

Cipiwyd y brenin amhoblogaidd Richard II (1367-1400) yma yn 1399, wrth iddo ddychwelyd i Loegr o Iwerddon, gan gefnogwyr Henry Bolingbroke. Ar ôl ei ddal, aethpwyd ag ef i gastell Y Fflint. Doedd ganddo ddim dewis ond i ildio’r goron i Bolingbroke, a deyrnasodd fel Harri IV.

Ers hynny mae’r pentir wedi cael ei drawsnewid gan chwarela calchfaen. Defnyddiwyd rhai o’r cerrig ar gyfer adeiladau lleol. Mae liw llwyd golau y graig yn nodwedd o adeiladau Fictoraidd yn Hen Golwyn a Bae Colwyn.

Yn y 1960au sefydlwyd labordy ym Mhenryn Penmaen ar gyfer sefydliad di-elw o’r enw Cwmni Ymchwil Robertson. Yma y cai samplau daearegol eu dadansoddi ar ran disgyblaethau amrywiol, gan gynnwys peirianneg sifil a chwarela. Tyfodd y cwmni yn gyflym ar ôl darganfyddiad olew Môr y Gogledd. Heddiw mae’n gweithredu o Landudno, ac yn parhau i ddarparu gwaith sy’n bwysig i’r ardal o ran sgiliau.

Cloddiodd cwmni y Chester & Holyhead Railway dwnnel o dan Penrhyn Penmaen yn y 1840au. Erbyn adeiladu traffordd yr A55 yn y 1980au, roedd chwarela wedi gostwng uchder y penrhyn, i’r gogledd o'r twnnel rheilffordd, gymaint fel y gallai’r ffordd redeg ar draws y pentir yn hawdd.

Wrth y lan gwelir siapiau angor mawr o goncrid. Gosodwyd rhain ar hyd yr arfordir i warchod y ffordd newydd rhag erydiad arfordirol. Gall gerddwyr groesi’r A55 ym Mhenrhyn Penmaen gan ddefnyddio’r bont droed concrid mewn siap bwa, a adnabyddir yn lleol fel y "bont enfys".

Where is this HiPoint?

Wales Coastal Path Tour Label Navigation anticlockwise buttonNavigation clockwise button
National Cycle Network Label Navigation previous buttonNavigation next button