Gorsaf dren Penmaenmawr

sign-out

Gorsaf dren Penmaenmawr

Argorwyd yr orsaf yn Mhenmaenmawr yn 1849, flwyddyn ar ôl  i'r trenau ddechrau rhedeg ar hyd y lein o Gaer i Fangor. Cafodd y rheilfordd effaith dda ar dwristiaith ar hyd yr arfordir ac ennillodd Penmaenmawr parch fel lle da i aros i gerdded a nofio.

Mae’r orsaf yma hyd heddiw gyda’i  ganopi i lochesi teithwyr. Roedd y rheilffordd yn gallu cludo ymwelwyr yn gyflym—dwy awr o Benarlag (cartref WE Gladstone) a phum awr o Lundain.

Ar un o’i ymweldiadau cafodd cerbyd Gladstone ei dynnu o’r orsaf - nid gan geffylau ond gan weithwyr o’r chwarel, cymaint oedd y parch lleol at y Prif Weinidog. Roedd ymwelydd enwog fel hyn, a oedd yn dod bob blwyddyn, yn dda i’r pentref a’r economi leol.

Roedd busnesau lleol yn falch iawn pan yn 1896, ar ei ymweliad olaf â’r dref, fe ddywedodd: “Dydw i ddim yn gwybod am unrhyw le mwy iachus; nid oes hinsawdd mwy boddhaol i’w chael yn unman arall yn y wlad hon.”

Heddiw mae’r trenau ‘n dal i redeg yn ddyddiol i Gaergybi, Caer, Manceinion a Chaerdydd a lleoedd erail.

Gyda diolch i David Bathers a Dennis Roberts o Gymdeithas Hanesyddol Penmaenmawr

Côd post: LL34 6AT    Map

William Gladstone Tour Lable Navigation previous buttonNavigation next button