Plas Newydd, Llangollen

button-theme-womenbutton-theme-irish-welsh

Plas Newydd, Llangollen

Safai bwthyn cymhedrol ar y safle hwn ym 1780, pan symudodd Lady Eleanor Butler a Sarah Ponsonby i fyw yma. Roedd Lady Eleanor (1739-1829) yn dod o fonedd Gwyddelig, sef y teulu Butler o Gastell Kilkenny. Cafodd ei chyflwyno i Miss Ponsonby (1755-1832) ym 1768, pan oedd ei rhieni yn ei hannog i briodi. Eu cynllun oedd y byddai’r ddwy ferch, a oedd yn byw o fewn 3km i’w gilydd, yn dod yn ffrindiau agos ac yn chwilio am wr yr un iddynt. Daeth y ddwy yn gariadon. Er mwyn dianc rhag y posibilrwydd o gael eu gorfodi i briodi, rhedon nhw i ffwrdd o Iwerddon ym 1778, gan achosi sgandal yn nosbarth uchaf cymdeithas.

llangollen_plas_newyddEu cynllun oedd i ymgartrefu yn Lloegr, ond fe ddewision nhw i fyw yn Llangollen. Ehangon nhw eu bwthyn, a alwyd Plas Newydd. Ychwanegon nhw baneli derw cerfiedig, a ffenestri lliw sy’n sticio allan. Buont yn byw gyda'i gilydd ym Mhlas Newydd am 49 mlynedd, tan i Lady Eleanor farw.

Yn adnabyddus fel "the Ladies of Llangollen", roeddent yn diddanu gwesteion enwog ym Mhlas Newydd, yn cynnwys Dug Wellington a’r beirdd William Wordsworth, Lord Byron, Robert Southey, Percy Bysshe Shelley a Syr Walter Scott. Rhoddodd y Brenin Siôr III bensiwn i’r ddwy, a  daeth pendefigion hyd yn oed o gyfandir Ewrop i ymweld a nhw.

Mae’r llun yn dangos Plas Newydd yn yr 1890au, gydag olion Castell Dinas Brân ar ben y bryn yn y pellter.

Heddiw mae Plas Newydd yn amgueddfa, yn eiddo i Gyngor Sir Ddinbych. Mae’n cynnwys y gerddi ffurfiol, a grëwyd tua diwedd y 19eg ganrif. Dadorchuddiodd prosiect adfer (gyda chymorth Cronfa Dreftadaeth y Loteri) elfennau o ymdrechion y ddwy ddynes i greu tirlun Rhamantaidd o gwmpas eu cartref.

Côd post:  LL20 8AW    Map

Gwefan Plas Newydd